Eich data a diogelwch : Yr hyn rydym ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth
Dim ond at ddibenion ystadegol y caiff y wybodaeth bersonol rydych yn ei rhoi ar eich cyfrifiad ei defnyddio. Nid yw ein hystadegau yn cynnwys unrhyw wybodaeth a all ddangos pwy ydych chi nac unrhyw un sy'n byw gyda chi. Mae gwybodaeth bersonol yn cynnwys pethau fel eich enw, dyddiad geni a chyfeiriad.
Gofynnom am enwau a dyddiadau geni er mwyn ein helpu i sicrhau ein bod ond yn cyfrif pawb unwaith.
Ni all eich gwybodaeth bersonol yn y cyfrifiad gael ei defnyddio gan y llywodraeth
Dim ond staff sydd wedi'u cymeradwyo a'u dethol yn ofalus all weld eich gwybodaeth bersonol yn y cyfrifiad. Dim ond at ddibenion ystadegol y mae staff sydd wedi'u cymeradwyo yn defnyddio'r wybodaeth.
Ni all eich gwybodaeth bersonol yn y cyfrifiad gael ei gweld na'i defnyddio gan unrhyw un:
- sy'n gwneud penderfyniadau amdanoch chi neu unrhyw wasanaethau rydych chi'n eu cael
- sy'n gwneud penderfyniadau am eich ceisiadau preswylio neu statws mewnfudo
- sy'n gwneud penderfyniadau am wasanaethau unigol, fel trethi a budd-daliadau
- sydd am ddod o hyd i chi neu werthu rhywbeth i chi – ni all eich gwybodaeth bersonol gael ei gwerthu i drydydd partïon
Mae ein holl systemau, staff a chyflenwyr, a'n ffordd o wneud pethau, yn dilyn safonau caeth y llywodraeth, a chaiff eich cyfrinachedd ei ddiogelu gan y gyfraith. Mae'n drosedd i unrhyw un rannu gwybodaeth bersonol o'r cyfrifiad oni bai bod hynny'n ofynnol yn ôl y gyfraith neu'n cael ei ganiatáu gan y gyfraith.
Mae'r fideo animeiddiedig hwn yn sôn am beth yw'r cyfrifiad a sut rydym yn diogelu eich gwybodaeth bersonol pan fyddwch yn cymryd rhan. Mae'r fideo hefyd yn esbonio beth ddigwyddodd i'r wybodaeth a ddarparwyd gennych ar ôl i chi gyflwyno eich ffurflen cyfrifiad.
Trawsgrifiad o’r fideo Beth sy’n digwydd i’m gwybodaeth o’r cyfrifiad?
Sut y byddwn yn cysylltu â chi
Ni fyddwn bellach yn cysylltu ag unrhyw un am Gyfrifiad 2021.
Os ydych wedi derbyn neges destun, galwad ffôn neu e-bost am y cyfrifiad, gallai hyn fod yn sgam.
Peidiwch ag ymateb i'r negeseuon hyn a pheidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni yn y neges.