Cael cefnogaeth : Trosolwg
Sut i gysylltu â ni am help a chefnogaeth
Os oes gennych gwestiwn am ystadegau cyfrifiad gan gynnwys 2021 a chynt, e-bostiwch tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid y Cyfrifiad (opens in a new tab) .
Gall ein tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid y Cyfrifiad:
- ddarparu arweiniad ar ddatganiad cyntaf a chrynodebau pwnc Cyfrifiad 2021
- nodi cynhyrchion cyfrifiad sydd ar gael mewn print ac ar y we
- ddarparu arweiniad ar gael mynediad at ddata gan ddefnyddio gwasanaethau gwe Ystadegau Gwladol
- gynghori ar ddiffiniadau o dermau cyfrifiad
- gynghori ar y ffigurau mwyaf addas ar gyfer ceisiadau penodol
- roi arweiniad ar y telerau ac amodau ar gyfer defnyddio data’r cyfrifiad
- gyflenwi detholiadau syml o ffigurau o Gyfrifiad 2011 a chyfrifiadau cynharach
- greu safleoedd a chyfrifiadau syml ar gyfer meysydd cwsmer-benodol
- fod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer problemau technegol yn ymwneud â defnyddio data cyfrifiad a ddarparwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)
- drefnu i gyngor arbenigol gael ei ddarparu
- gymryd archebion ar gyfer allbwn a gomisiynir
Cyfeiriad post
The Office for National Statistics
Census Customer Services
Segensworth Road
Titchfield
Fareham
PO15 5RR