Dywedwch wrthym a ydych chi'n derbyn cwcis ons.gov.uk

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth am y ffordd rydych chi’n defnyddio cyfrifiad.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i sicrhau bod y wefan yn gweithio cystal â phosibl ac i wella ein gwasanaethau.

You have accepted all additional cookies. You have rejected all additional cookies. You can change your cookie preferences at any time.

Neidio i’r prif gynnwy

Canlyniadau Cyfrifiad 2021

Canlyniadau Cyfrifiad 2021 yw’r data a’r esboniad ategol ar y boblogaeth a chartrefi yng Nghymru a Lloegr o Gyfrifiad 2021.

Yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), gwnaethom gyhoeddi’r canlyniadau cyntaf o Gyfrifiad 2021 ddydd Mawrth 28 Mehefin 2022. Rydym yn bwriadu cyhoeddi holl brif ganlyniadau o fewn dwy flynedd i’r cyfrifiad.

Byddwn yn cyhoeddi’r canlyniadau mewn camau ar wefan SYG, a bydd yr hyn a gynhyrchwn yn dod yn gyfoethocach gyda phob cam.

Ym mhob cam, byddwn yn cyhoeddi esboniad neu ddadansoddiad ochr yn ochr â’r data i’w cefnogi a’u hesbonio.

Gallwch ddysgu mwy o wybodaeth am y camau hyn ar dudalen cynlluniau rhyddhau Cyfrifiad 2021 (opens in a new tab)  y wefan SYG.

Cam un - Canlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021

Dysgwch fwy am y canlyniadau cyntaf ac amcangyfrifon poblogaeth o Gyfrifiad 2021.

    Cam un - Crynodebau pwnc Cyfrifiad 2021

    Dysgwch fwy am y crynodebau pwnc y gwnaethom gyhoeddi rhwng hydref 2022 a gaeaf 2023.

      Rhaglen ddadansoddi Cyfrifiad 2021

      Dysgwch fwy am yr hyn rydym yn bwriadu ei gyhoeddi fel rhan o raglen ddadansoddi Cyfrifiad 2021.

        Cam dau - Cyfuniadau o ddata Cyfrifiad 2021

        Dysgwch fwy am gam dau canlyniadau Cyfrifiad 2021, lle gallwch gyfuno llawer o newidynnau o’r data rydym yn ei gyhoeddi.

          Cam tri - Data poblogaeth amgen Cyfrifiad 2021

          Dysgwch fwy am ddata sy'n dangos y gwahanol leoedd lle cafodd unigolion eu cyfrif, grwpiau llai o'r boblogaeth, symudiad pobl a microdata.

            Cynnwys rhyngweithiol Cyfrifiad 2021

            Dysgwch fwy am y ffyrdd newydd a chyffrous y gallwch chi ryngweithio â data’r cyfrifiad.