Cam dau - Cyfuniadau o ddata Cyfrifiad 2021 : Creu set ddata arbennig
Yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rydym yn creu cynhyrchion sy'n ei gwneud yn haws i chi gael data ar y pynciau y mae gennych fwyaf o ddiddordeb ynddynt. Un o'r cynhyrchion hyn yw "Creu set ddata arbennig", sy'n casglu'r data sydd o bwys i chi mewn un man.
Mae'r animeiddiad hwn yn esbonio sut y gallwch chi ddefnyddio "Creu set ddata arbennig".
Trawsgrifiad o'r fideo animeiddiedig Creu set ddata arbennig
Sut mae defnyddio'r adnodd "Creu set ddata arbennig"?
Dewiswch boblogaeth i ddechrau arni. Mae'r opsiynau yn cynnwys preswylwyr arferol, cartrefi a sefydliadau cymunedol.
Oddi yno, gallwch newid ardal ddaearyddol eich set ddata a hidlo'r data yn ôl rhyw ac oedran. Gallwch hefyd ychwanegu cynifer o newidynnau ag y mynnwch, gan gynnwys:
- demograffeg a mudo
- cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig
- grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd
- sgiliau Cymraeg
- y farchnad lafur a theithio i'r gwaith
- tai
- addysg
- iechyd, anabledd a gofal di-dâl
Gallwch naill ai ddewis newidynnau o restr neu eu teipio i mewn.
Ar gyfer y rhan fwyaf o newidynnau, gallwch fod mor eang neu mor gul ag y mynnwch wrth chwilio am ardaloedd. Gallai hyn fod o wledydd a rhanbarthau, hyd at ardal gynnyrch, sef y lefel ddaearyddol isaf ar gyfer ystadegau'r cyfrifiad.
Gallwch hidlo'r data ymhellach drwy ddewis categorïau o restr sy'n ymwneud â newidyn. Er enghraifft, gallwch hidlo nifer y grwpiau oedran i ddangos data ar gyfer categorïau pobl "18 i 24 oed" a phobl "85 oed a throsodd" yn unig.
Pan fyddwch wedi creu set ddata rydych yn fodlon arni, gallwch lawrlwytho'r data yn eich dewis fformat.
Gallwch greu eich setiau data eich hun (yn Saesneg) (opens in a new tab) ar wefan SYG.
Ei gwneud yn haws i chi gael gafael ar y data sydd eu hangen arnoch
I'w gwneud yn haws i chi gael gafael ar y data sydd eu hangen arnoch, byddwn yn creu detholiad o gynhyrchion ac adnoddau gwahanol.
Mae hyn yn golygu, wrth i'r allbynnau o Gyfrifiad 2021 barhau, byddwn yn rhyddhau mwy o setiau data, erthyglau dadansoddi a ffyrdd creadigol o arddangos y data.
Cadw data'n ddiogel
Mae'r data yn yr adnodd "Creu set ddata arbennig" yn ddiogel ac ni allwch adnabod rhywun yn bersonol o'r setiau data y byddwch yn eu creu. Er mwyn sicrhau bod y data'n ddiogel, ni all y setiau data gynnwys cymaint o fanylion ag y gallai fod eu hangen arnoch.
Er mwyn rhoi mynediad at ddata manylach i bobl, wrth ddiogelu cyfrinachedd, rydym hefyd yn bwriadu cyhoeddi setiau data sydd wedi'u creu yn barod.
Dysgwch am sut mae "Creu set ddata arbennig" yn un o'r ffyrdd y gallwch chi gael y data rydych chi ei eisiau. Darllenwch fwy yn "Ffyrdd newydd i gael gafael ar ddata Cyfrifiad 2021" (yn Saesneg) (opens in a new tab) ar y blog Ystadegol Cenedlaethol.