Dywedwch wrthym a ydych chi'n derbyn cwcis ons.gov.uk

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth am y ffordd rydych chi’n defnyddio cyfrifiad.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i sicrhau bod y wefan yn gweithio cystal â phosibl ac i wella ein gwasanaethau.

You have accepted all additional cookies. You have rejected all additional cookies. You can change your cookie preferences at any time.

Neidio i’r prif gynnwy

Cam dau - Cyfuniadau o ddata Cyfrifiad 2021 : Setiau data wedi'u creu yn barod

Mae'r adnodd "Creu set ddata arbennig" yn eich galluogi i ychwanegu neu ddileu newidynnau a newid ardaloedd daearyddol er mwyn creu set ddata. Pan fydd risg y gallai rhywun gael ei adnabod o'r set ddata, ni chaiff unrhyw ddata eu dychwelyd.

Nid ydym yn cyhoeddi data sy'n eich galluogi i adnabod unigolion.

Mae setiau data sydd wedi'u creu yn barod yn ei gwneud mor hawdd â phosibl i chi gael gafael ar y data rydych am eu cael a diogelu cyfrinachedd. Bydd y setiau data sydd wedi'u creu yn barod a gyhoeddir gennym yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys:

  • demograffeg a mudo
  • cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig
  • grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd
  • sgiliau Cymraeg
  • y farchnad lafur a theithio i'r gwaith
  • tai
  • cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd
  • addysg
  • iechyd, anabledd a gofal di-dâl

Dewiswch set ddata sydd wedi'i chreu yn barod, yna dewiswch yr ardal benodol yr hoffech weld data ar ei chyfer.

Important information:

Gweler ein detholiad o setiau data sydd wedi'u creu yn barod (yn Saesneg) (opens in a new tab)  ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).

Important information:

Gallwch ddod o hyd i ystadegau'r cyfrifiad mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd, gan gynnwys ein setiau data wedi'u creu yn barod am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd. Darllenwch fwy am y setiau data hyn a ffyrdd eraill o gael mynediad at ddata'r cyfrifiad yn "Cynhyrchion Diweddaraf Cyfrifiad 2021" (yn Saesneg) (opens in a new tab)  ar y blog Ystadegol Cenedlaethol.