Cam un canlyniadau Cyfrifiad 2021 - Crynodebau pwnc
Nawr ein bod wedi cyhoeddi’r canlyniadau cyntaf, byddwn yn cyhoeddi crynodebau pwnc a ffeithiau a ffigurau am ardaloedd yng ngweddill cam un.
Byddwn yn cyhoeddi’r cyntaf o’n cyfres o crynodeb pwnc ym mis Hydref 2022, a’r olaf erbyn diwedd 2022.
Byddwn yn rhyddhau’r crynodebau yn y drefn a wnaethom gyhoeddi ar y dudalen cynlluniau ar gyfer rhyddhau ar wefan SYG. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i fod yn hyblyg i unrhyw angen newidiol defnyddiwr.
Crynodebau pwnc Cyfrifiad 2021
Mae crynodebau pwnc yn cynnwys setiau o ddata, neu setiau data, y rhan fwyaf ohonynt yn cynnwys data o un newidyn. Mae newidyn yn nodwedd arbennig o berson neu gartref, er enghraifft, crefydd neu fath o lety.
Bydd y crynodebau pwnc hyn yn cynnwys:
- demograffeg a mudo
- grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith, a chrefydd
- cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig
- tai
- y farchnad lafur a theithio i'r gwaith
- cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd
- addysg
- iechyd, anabledd a gofal di-dâl
Ffeithiau a ffigurau yn eich ardal
Bydd ffeithiau a ffigurau ar gael ar draws ystod o bynciau ar gyfer pob ardal yng Nghymru a Lloegr.
Rydym yn cynhyrchu proffiliau ar gyfer pob ardal ddaearyddol. Mae’r rhain yn eich galluogi i gymharu ystadegau ardaloedd lleol ag ardaloedd eraill neu Gymru a Lloegr gyfan yn hawdd.
Gallwch ddysgu mwy o wybodaeth am ryddhau data crynodeb pwnc ar gyfer Cyfrifiad 2021 ar wefan SYG.