Addysg
Ar 10 Ionawr 2023, fel rhan o'n datganiadau crynodebau pwnc ar gyfer Cyfrifiad 2021, gwnaethom gyhoeddi data am addysg yng Nghymru a Lloegr.
Beth sydd wedi'i gynnwys yng nghanlyniadau Cyfrifiad 2021 am addysg
Roedd canlyniadau Cyfrifiad 2021 am addysg yn cynnwys data am bobl sydd wedi ennill cymwysterau academaidd, galwedigaethol, neu broffesiynol, yn ogystal â nifer y plant ysgol a myfyrwyr amser llawn.
Roedd hyn yn ateb cwestiynau fel:
- faint o bobl 16 oed neu drosodd oedd yn meddu ar gymwysterau addysg uwch?
- faint o blant ysgol a myfyrwyr amser llawn oedd yng Nghymru a Lloegr yn 2021?
- pa ranbarth oedd fwyaf cymwys yng Nghymru a Lloegr?
Gallwch ddysgu mwy am ganlyniadau Cyfrifiad 2021 am addysg yng Nghymru a Lloegr (opens in a new tab) ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).
Gwybodaeth Gymraeg am addysg
Gwnaethom ddarparu gwybodaeth am holl grynodebau pwnc Cyfrifiad 2021 yn Gymraeg, a gwnaeth Llywodraeth Cymru ryddhau data penodol am Gymru.
Gwnaethom greu PDF Cymraeg y gellir ei lawrlwytho o fwletin y crynodeb pwnc am addysg yng Nghymru a Lloegr. Gallwch lawrlwytho hwn o dan y pennawd Main points yn y datganiad ar addysg yng Nghymru a Lloegr (yn Saesneg) (opens in a new tab) ar wefan SYG.
Gwnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi gwybodaeth am grynodebau pwnc Cyfrifiad 2021 sy'n benodol i Gymru. Roedd y datganiad am addysg yn cynnwys data am y lefel uchaf o gymhwyster, plant ysgol, myfyrwyr ac eraill mewn addysg amser llawn yng Nghymru.
Gallwch ddysgu mwy am y wybodaeth o'r crynodeb pwnc am addysg yng Nghymru (opens in a new tab) ar wefan Llywodraeth Cymru.
Gwnaethom greu " Map y cyfrifiad (yn Saesneg) (opens in a new tab) " ar wefan SYG. Mae'r map rhyngweithiol hwn yn eich galluogi i weld data addysg mewn ardaloedd awdurdod lleol a chymdogaethau gwahanol, yn ogystal â data Cyfrifiad 2021 arall a ryddhawyd eisoes.