Cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd : Trosolwg
Ar 6 Ionawr 2023, fel rhan o'n datganiadau crynodebau pwnc ar gyfer Cyfrifiad 2021, gwnaethom gyhoeddi data am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd yng Nghymru a Lloegr.
Dyma'r tro cyntaf i ni gasglu a chyhoeddi gwybodaeth o'r cyfrifiad am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd.
Beth sydd wedi'i gynnwys yng nghanlyniadau Cyfrifiad 2021 am gyfeiriadedd rhywiol
Roedd canlyniadau Cyfrifiad 2021 yn cynnwys data am gyfeiriadedd rhywiol pobl yng Nghymru a Lloegr, fel y cafodd ei gofnodi ganddynt.
Roedd hyn yn ateb cwestiynau fel:
- faint o bobl ddewisodd ateb y cwestiwn am gyfeiriadedd rhywiol?
- sut mae cyfeiriadedd rhywiol yn amrywio ledled Cymru a Lloegr?
- pa gyfran o'r boblogaeth nododd eu bod yn lesbiaidd, yn hoyw, yn ddeurywiol neu gyfeiriadedd rhywiol lleiafrifol arall (LHD+)?
- faint o bobl nododd eu bod yn banrywiol, yn anrhywiol neu'n gwiar?
Beth sydd wedi'i gynnwys yng nghanlyniadau Cyfrifiad 2021 am hunaniaeth o ran rhywedd
Roedd canlyniadau Cyfrifiad 2021 yn cynnwys data am hunaniaeth o ran rhywedd pobl yng Nghymru a Lloegr, fel y cafodd ei gofnodi ganddynt.
Roedd hyn yn ateb cwestiynau fel:
- faint o bobl ddewisodd ateb y cwestiwn am hunaniaeth o ran rhywedd?
- faint o bobl nododd fod eu hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni?
- sut mae hunaniaeth o ran rhywedd yn amrywio ledled Cymru a Lloegr?
- faint o bobl nododd eu bod yn fenyw draws, yn ddyn traws neu'n anneuaidd?
Gallwch ddysgu mwy am ganlyniadau Cyfrifiad 2021 am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd yng Nghymru a Lloegr (opens in a new tab) ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).
Gwnaethom greu " Map y cyfrifiad (yn Saesneg) (opens in a new tab) " ar wefan SYG. Mae'r map rhyngweithiol hwn yn eich galluogi i weld data cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd mewn ardaloedd awdurdod lleol a chymdogaethau gwahanol, yn ogystal â data Cyfrifiad 2021 arall a ryddhawyd eisoes.