Cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig : Trosolwg
Ar 10 Tachwedd 2022, fel rhan o'n datganiadau crynodebau pwnc ar gyfer Cyfrifiad 2021, gwnaethom gyhoeddi data am gyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yng Nghymru a Lloegr.
Dyma'r tro cyntaf i ni gasglu a chyhoeddi gwybodaeth o'r cyfrifiad am gyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig.
Yn y fideo hwn rydym yn esbonio beth mae crynodeb pwnc cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig Cyfrifiad 2021 yn ei gynnwys. Rydym hefyd yn tynnu sylw at rai o'r data pwysicaf a mwyaf diddorol ohono.
Beth sydd wedi'i gynnwys yng nghanlyniadau Cyfrifiad 2021 am gyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig
Roedd canlyniadau Cyfrifiad 2021 am gyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn cynnwys data am bobl sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd rheolaidd, y lluoedd wrth gefn neu'r ddau yn y gorffennol.
Roedd hyn yn ateb cwestiynau fel:
- faint o gyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig oedd yn byw mewn cartrefi a sefydliadau cymunedol ar adeg y cyfrifiad?
- faint o gartrefi oedd yn cynnwys un person neu fwy a oedd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig?
- pa awdurdodau lleol oedd â'r gyfran uchaf o gyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig?
Gallwch ddysgu mwy am ganlyniadau Cyfrifiad 2021 am gyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yng Nghymru a Lloegr (yn Saesneg) (opens in a new tab) ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).
Dywedodd y Lleng Brydeinig Frenhinol wrthym sut y bydd yn defnyddio canlyniadau Cyfrifiad 2021 i helpu cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig i gael y cymorth sydd ei angen arnynt.
Gallwch ddysgu mwy yn stori'r cyfrifiad gan y Lleng Brydeinig Frenhinol.