Ffeithiau a ffigurau yn eich ardal
Fel rhan o'n datganiadau crynodebau pwnc, gwnaethom rannu ffeithiau a ffigurau ar amrywiaeth o bynciau ar gyfer pob ardal yng Nghymru a Lloegr.
Gwnaethom hyn ar wefan Nomis, sy'n wasanaeth a ddarperir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Dyma lle byddwn yn cyhoeddi ystadegau sy'n ymwneud â'r boblogaeth, y gymdeithas a'r farchnad lafur ar lefel genedlaethol, rhanbarthol a lleol. Roedd y rhain yn cynnwys data o Gyfrifiad 2021 a chyfrifiadau blaenorol.
Gwnaethom gynhyrchu proffiliau ar gyfer ardaloedd daearyddol sy'n eich galluogi i gymharu ystadegau ar gyfer ardaloedd lleol ag ardaloedd eraill neu Gymru a Lloegr gyfan.
Sut allwch chi ddod o hyd i ffeithiau a ffigurau ar gyfer eich ardal chi?
Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw chwilio am god post neu enw ardal a byddwch yn dod o hyd i ddata ar gyfer yr ardal honno o rai o'r crynodebau pwnc rydym eisoes wedi'u rhyddhau. Er enghraifft, gallwch ddod o hyd i ddata ar amcangyfrifon o'r boblogaeth, gwlad enedigol a statws gwaith.
Gwnaethom ddewis pynciau heb lawer o gategorïau. Gwnaethom hyn fel na fyddant yn effeithio ar y ffordd y caiff y ffeithiau a'r ffigurau eu harddangos. Hefyd, gwnaethom ddewis y pynciau yn seiliedig ar anghenion data defnyddwyr a ddaeth o'r ymgynghoriad ar allbynnau Cyfrifiad 2021. Gallwch ddysgu mwy am yr ymateb i'r ymgynghoriad ar allbynnau Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg) (opens in a new tab) ar wefan ymgyngoriadau SYG.
Gallwch ddysgu mwy am ryddhau data crynodeb pwnc ar gyfer Cyfrifiad 2021 (opens in a new tab) ar wefan SYG.