Grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd : Trosolwg
Ar 29 Tachwedd 2022, fel rhan o'n datganiadau crynodebau pwnc ar gyfer Cyfrifiad 2021, gwnaethom gyhoeddi data am grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd pobl yng Nghymru a Lloegr.
Roedd hyn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:
- pa grwpiau ethnig wnaeth pobl eu nodi
- y brif iaith y mae pobl yn ei defnyddio
- pa mor dda y gallai pobl, nad yw Cymraeg na Saesneg yn brif iaith iddynt, siarad Saesneg
- sut mae pobl yn disgrifio eu hunaniaeth genedlaethol
- pa grwpiau crefyddol wnaeth pobl eu nodi
Yn y fideo hwn rydym yn esbonio beth mae crynodeb pwnc grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd Cyfrifiad 2021 yn ei gynnwys. Rydym hefyd yn tynnu sylw at rai o'r data pwysicaf a mwyaf diddorol ohono.
Gwnaethom greu " Map y cyfrifiad (yn Saesneg) (opens in a new tab) " ar wefan SYG. Mae’r map rhyngweithiol hwn yn eich galluogi i weld data grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd mewn ardaloedd awdurdod lleol a chymdogaethau gwahanol, yn ogystal â data Cyfrifiad 2021 arall a ryddhawyd eisoes.
Profwch eich gwybodaeth am eich ardal awdurdod lleol yn ein cwis rhyngweithiol y cyfrifiad. Gallwch roi cynnig ar gwis y cyfrifiad (opens in a new tab) ar wefan SYG.
Cyfrifiad 2021 oedd y cyfrifiad mwyaf cynhwysol erioed. Gallai pobl nodi fel y mynnant, gan ddefnyddio opsiynau chwilio ar-lein ac ysgrifennu papur. Nawr bod datganiad crynodeb pwnc y cyfrifiad grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd wedi'i gyhoeddi, darganfyddwch sut rydym yn troi'r data hwn yn ystadegau ystyrlon.
Dysgwch fwy yn Sut ydw i'n cael fy nghynrychioli yn nata Cyfrifiad 2021? (yn Saesneg) (opens in a new tab) ar y blog Ystadegol Cenedlaethol.