Tai : Trosolwg
Ar 5 Ionawr 2023, fel rhan o'n datganiadau crynodebau pwnc ar gyfer Cyfrifiad 2021, gwnaethom gyhoeddi data am dai yng Nghymru a Lloegr.
Yn y fideo hwn rydym yn esbonio beth mae crynodeb pwnc tai Cyfrifiad 2021 yn ei gynnwys. Rydym hefyd yn tynnu sylw at rai o'r data pwysicaf a mwyaf diddorol ohono.
Gwnaethom greu " Map y cyfrifiad (yn Saesneg) (opens in a new tab) " ar wefan SYG. Mae'r map rhyngweithiol hwn yn eich galluogi i weld data tai mewn ardaloedd awdurdod lleol a chymdogaethau gwahanol, yn ogystal â data Cyfrifiad 2021 arall a ryddhawyd eisoes.
Profwch eich gwybodaeth am ardal eich awdurdod lleol yn ein cwis rhyngweithiol y cyfrifiad. Gallwch roi cynnig ar Gwis y cyfrifiad (opens in a new tab) ar wefan SYG.