Cynnwys rhyngweithiol Cyfrifiad 2021 : Adroddiadau newid dros amser
Er mwyn adrodd y straeon lleol o grynodebau pwnc Cyfrifiad 2021, byddwn yn cyhoeddi adroddiadau rhyngweithiol ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr. Bydd yr erthyglau a'r siartiau hyn yn tynnu sylw at y newidiadau mwyaf diddorol yn yr ardal honno.

Pan fyddwch yn dewis eich ardal, bydd yr adroddiad yn dangos rhai o'r newidiadau gwahanol yn y boblogaeth leol o 2011 i 2021. Bydd hefyd yn dangos sut mae'r newidiadau hyn yn cymharu â thueddiadau rhanbarthol neu genedlaethol.
Bydd pob adroddiad yn dadansoddi newidiadau yn y boblogaeth leol. P'un a ydych chi'n gweithio yn Woking neu Wolverhampton, yng Nghaerffili neu Gaerdydd, byddwn yn esbonio'r modd y mae bywyd wedi newid ble rydych chi'n byw dros y deng mlynedd rhwng cyfrifiadau.
Mae mwy o wybodaeth am ddatganiadau crynodebau pwnc Cyfrifiad 2021 (opens in a new tab) ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).