Cynnwys rhyngweithiol Cyfrifiad 2021 : Creu proffil ardal penodol
Mae ein hadnodd rhyngweithiol newydd, "Creu proffil ardal penodol", yn gwneud yn union fel mae'r enw yn ei awgrymu. Mae'n eich galluogi i greu eich proffil ardal eich hun ar gyfer ardaloedd lleol yng Nghymru a Lloegr gan ddefnyddio data Cyfrifiad 2021.

Gallwch gael data ar gyfer gwahanol fathau o ardaloedd, er enghraifft eich cymdogaeth, eich ward neu eich plwyf. Gallwch hyd yn oed lunio eich ardal eich hun ar fap. Yna gallwch greu proffil o'r ardal rydych wedi'i dewis gan ddefnyddio data o Gyfrifiad 2021.
Er enghraifft, gallwch ddangos nifer y bobl a'r cartrefi yn yr ardal rydych wedi'i theilwra. Gallwch hefyd greu siartiau syml yn dangos canrannau'r bobl yn eich ardal wedi'u rhannu yn ôl grŵp oedran, y swyddi y maent yn gweithio ynddynt, gwlad enedigol a mwy.
Gallwch ddechrau creu eich proffil ardal penodol eich hun (yn Saesneg) (opens in a new tab) ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).