Cynnwys rhyngweithiol Cyfrifiad 2021 : Cwis y cyfrifiad - Pa mor dda ydych chi'n adnabod eich ardal leol?
Gan ddefnyddio data o grynodebau pwnc Cyfrifiad 2021, gwnaethom greu cwis i weld pa mor dda rydych chi'n adnabod eich ardal leol.

Mae'r cwis yn rhoi cyfle i chi brofi eich gwybodaeth am ardal eich awdurdod lleol. Mewn llawer o'r atebion, gallwch hefyd ddysgu sut mae'n cymharu â chyfartaledd Cymru a Lloegr.
I greu'r cwis hwn, rydym wedi defnyddio data o grynodebau pwnc rydym wedi'u cyhoeddi hyd yn hyn.
Mae mwy o wybodaeth am ddatganiadau crynodebau pwnc Cyfrifiad 2021 (opens in a new tab) ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).
Gallwch roi cynnig ar gwis y cyfrifiad (yn Saesneg) (opens in a new tab) ar wefan SYG.