Cynnwys rhyngweithiol Cyfrifiad 2021 : Map y cyfrifiad
Gan ddefnyddio data crynodeb pwnc Cyfrifiad 2021, gwnaethom greu map rhyngweithiol sy'n eich galluogi i gymharu data'r cyfrifiad mewn ardaloedd gwahanol ledled Cymru a Lloegr.

Gan ddefnyddio adnodd map y cyfrifiad, gallwch ddysgu am fywydau pobl yn eich ardal chi ac mewn mannau eraill ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yn 2021. Gallai hyn gynnwys pa ardaloedd oedd â’r canrannau uchaf ac isaf o:
- pobl briod neu mewn partneriaeth sifil
- pobl yn ôl cyfeiriadedd rhywiol
- pobl mewn cyflogaeth
- pobl mewn addysg amser llawn
- pobl sydd â phroblem iechyd hirdymor neu anabledd
- cartrefi a ddefnyddiodd wres adnewyddadwy ar gyfer eu gwres canolog
Mae'r map yn cwmpasu ardaloedd awdurdod lleol a chymdogaethau, gan eich galluogi i weld data manwl am eich cymuned.
Gallwch hefyd weld sut mae ardaloedd wedi newid rhwng y cyfrifiadau yn 2011 a 2021, trwy ddewis "Mode" a "Change since 2011".
Mae mwy o wybodaeth am ddatganiadau crynodebau pwnc Cyfrifiad 2021 (opens in a new tab) ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).
Defnyddiwch ein map rhyngweithiol (yn Saesneg) (opens in a new tab) ar wefan SYG i ddysgu mwy am fywydau pobl ledled Cymru a Lloegr.