Datganiad hygyrchedd
Caiff gwefan y cyfrifiad ei chynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech fod yn gallu:
- newid lliwiau a lefelau cyferbynnedd
- chwyddo'r testun hyd at 300% heb broblemau
- defnyddio'r rhan fwyaf o'r wefan â bysellfwrdd yn unig
- defnyddio'r rhan fwyaf o'r wefan â meddalwedd adnabod lleferydd
- defnyddio'r rhan fwyaf o'r wefan â rhaglen darllen sgrin, gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver
Rydym yn defnyddio iaith syml cymaint â phosibl.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd neu nam.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon?
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan yn gwbl hygyrch. Er enghraifft:
- ni allwch addasu uchder llinellau na'r bylchau rhwng testun
- nid yw rhai botymau na dolenni wedi'u nodi'n gywir, a all ei gwneud yn anoddach eu dewis
- bydd terfyn amser o 45 munud wrth lenwi pob cwestiwn ar holiadur y cyfrifiad ac wrth wneud ceisiadau, ac ni ellir ei ymestyn
- nid yw'r nodwedd awtogwblhau ar gael ar flychau mewnbwn yn holiadur y cyfrifiad
- nid yw'r iaith ysgrifenedig ddiofyn wedi'i nodi'n gywir ar rai o'r tudalennau
Fformatau hygyrch
Mae rhywfaint o'r wybodaeth ar y wefan hon ar gael mewn fformatau gwahanol. Mae gwybodaeth am y cyfrifiad ar gael mewn print mawr, fformat hawdd ei ddeall a Braille. Mae fideos hygyrch o wybodaeth a chwestiynau'r cyfrifiad ar gael hefyd, sy'n cynnwys Iaith Arwyddion Prydain, sain ac isdeitlau.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu os na fyddwch yn credu ein bod yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.
Gweithdrefn gorfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 – y “rheoliadau hygyrchedd”. Os na fyddwch yn fodlon â'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r canlynol:
- Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr
- Comisiwn Cydraddoldeb dros Ogledd Iwerddon (ECNI) os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae SYG yn ymrwymedig i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1 (WCAG) safon AA, oherwydd yr achosion o ddiffyg cydymffurfio a restrir.
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Nid yw'r cynnwys a restrir yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd
Bydd terfyn amser o 45 munud wrth lenwi pob cwestiwn ar holiadur y cyfrifiad ac wrth wneud ceisiadau. Ni all y defnyddiwr ddiffodd, addasu nac ymestyn y terfyn amser hwn. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1 (Amseru y gellir ei addasu).
Nod holiadur y cyfrifiad yw:
lleihau'r baich ar ddefnyddwyr drwy ond gofyn un cwestiwn ar bob tudalen
cadw pob tudalen â chwestiwn wrth i'r defnyddiwr symud i'r un nesaf, gan ailosod y terfyn amser o 45 munud
galluogi pobl mewn cartref i rannu dyfeisiau wrth leihau'r risg y byddant yn gweld holiaduron i unigolion y cyfrifiad ei gilydd
Rydym wedi gosod y terfyn amser er mwyn sicrhau diogelwch a defnyddioldeb ar gyfer sawl defnyddiwr gwahanol. Mae hefyd yn golygu y gallwn gefnogi miloedd o bobl sy'n cwblhau'r cyfrifiad ar lein ar yr un pryd.
Nid yw'r nodwedd awtogwblhau ar gael ar flychau mewnbwn yn holiadur y cyfrifiad, er enghraifft wrth roi enw. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.3.5 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1 safon AA (Nodi Diben Mewnbynnu).
Mae'n hanfodol bod y cyfrifiad yn casglu gwybodaeth gywir. Gallai'r nodwedd awtogwblhau olygu bod ymatebwyr yn dewis ateb anghywir neu hen. Mae hefyd angen i ni ddarparu diogelwch i'r rhai sy'n rhannu dyfeisiau mewn cartref, ond nad ydynt am rannu eu hatebion. Gyda'r nodwedd awtogwblhau, gallai aelodau gwahanol o gartref weld atebion pobl eraill.
Mae rhai dolenni'n edrych fel botymau ac mae rhai botymau'n edrych fel dolenni. Mae hyn yn golygu ei bod yn anodd i rai defnyddwyr gwblhau trafodiad neu symud ymlaen. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.3.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1 safon A (Gwybodaeth a Chydberthnasau).
Nid yw'r newid i'r iaith ysgrifenedig ddiofyn wedi'i nodi'n gywir ar rai o'r tudalennau. Mae hyn yn golygu na fydd rhaglen darllen sgrin yn darllen y cynnwys yn gywir. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 3.1.2 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1 (Iaith Rhannau).
Fel rhan o'r cynllun cyfan i wella ein gwasanaethau Casglu Data Arolwg yn SYG, ein bwriad yw datrys y problemau hyn erbyn mis Tachwedd 2021.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Mae gan rai elfennau radio neu flwch ticio elfen ddisgrifio yn y blwch arffiniol. Os y'u cyrchir allan o'u cyd-destun gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin, efallai y bydd y disgrifiadau'n diflannu cyn y diwedd.
Sut y gwnaethom brofi'r wefan hon
Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ym mis Chwefror 2021. Y Ganolfan Hygyrchedd Digidol (DAC) gynhaliodd y profion. Cynhaliodd DAC brofion â llaw ar gyfrifiaduron bwrdd gwaith, dyfeisiau symudol a llechi gyda phobl ag amrywiaeth o anableddau. Roedd y profion yn cynnwys cyfres o dasgau a theithiau drwy'r cyfrifiad, gan ddefnyddio'r rhan fwyaf o dudalennau a mathau o gynnwys.
Cynhaliodd DAC amrywiaeth o brofion dros y flwyddyn ddiwethaf ar gyfer rhannau gwahanol o wefan y cyfrifiad. Gallwch gysylltu â ni i ofyn am gael unrhyw rai o'r adroddiadau canlynol:
- Adroddiad cyntaf holiadur y cyfrifiad SYG Hydref 2020
- Ail archwiliad llawn holiadur y cyfrifiad SYG Ionawr 2021
- Fframwaith cyfrifiad.gov.uk SYG Ionawr 2021
- Archwiliad terfynol cyfrifiad.gov.uk SYG Chwefror 2021
Gwnaethom hefyd brofi hygyrchedd drwy ddefnyddio Google Lighthouse i archwilio'r wefan.
Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Yn ystod cyfnod y cyfrifiad (rhwng mis Chwefror a mis Gorffennaf 2021) byddwn yn parhau i fonitro sut y mae'r wefan hon yn bodloni Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1 safon AA.
Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon pan fyddwn yn datrys unrhyw rai o'r problemau hygyrchedd.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 17 Medi 2019. Cafodd ei ddiweddaru ddiwethaf ar 22 Chwefror 2021.