Cael cod mynediad neu holiadur papur
I ddechrau eich cyfrifiad ar lein, bydd angen eich cod mynediad sydd wedi'i argraffu ar y llythyr y gwnaethom ei anfon atoch arnoch chi.
Ble i ddod o hyd i'ch cod mynediad
Os nad oes gennych chi god mynediad
Gallwch ofyn am god mynediad newydd i ddechrau cyfrifiad newydd os ydych chi wedi colli eich cod mynediad neu heb gael un. Gall y cod gael ei anfon atoch drwy neges destun neu drwy'r post.
Bydd cod mynediad newydd yn dechrau cyfrifiad newydd, a byddwch chi'n colli unrhyw atebion a gafodd eu rhoi gan ddefnyddio cod mynediad blaenorol.
Os bydd angen i chi ateb ar wahân i'r bobl rydych chi'n byw gyda nhw, gallwch chi gwblhau eich cyfrifiad eich hun.
Bydd yn rhaid i rywun yn eich cartref gwblhau cyfrifiad gan ddefnyddio cod mynediad y cartref o hyd
Os hoffech chi lenwi holiadur papur y cyfrifiad
Gallwch ofyn am gael holiadur papur y cyfrifiad drwy'r post.
Holiadur cartref (parhad)
Os oes gennych holiadur papur y cyfrifiad yn barod ac os oes mwy na 5 o bobl yn eich cartref, bydd angen i chi ofyn am holiadur cartref (parhad).