Dechrau arno : Dechrau eich cyfrifiad ar bapur
Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y ffurflen bapur i'ch helpu chi i'w llenwi. Mae cyfarwyddiadau ar sut i ateb y cwestiynau ar ail dudalen y ffurflen ac ar y daflen a ddaeth gyda hi.
Os ydych chi'n helpu rhywun arall i lenwi ei ffurflen bapur, edrychwch ar y cyngor ar lenwi ffurflen bapur.
Rydw i wedi cael mwy nag un ffurflen. Pa un ddylwn i ei llenwi?
- Os ydych chi wedi cael ffurflen yn Gymraeg a ffurflen arall yn Saesneg, llenwch y ffurflen yn yr iaith mae'n well gennych chi ei defnyddio.
- Os yw'r cyfeiriadau'r un peth ar y ffurflenni, does dim ots pa un rydych chi'n ei defnyddio - fel arall, llenwch y ffurflen sydd â'r cyfeiriad mwyaf cywir arni.
- Gallwch chi ailgylchu unrhyw ffurflenni sbâr, ond cofiwch ddinistrio'r dudalen flaen sydd â manylion personol arnyn nhw.
Rydw i wedi gofyn am ffurflen bapur ond nid yw'r ffurflen wedi cyrraedd eto
Dylai eich ffurflen bapur gyrraedd cyn pen 5 diwrnod gwaith i chi lenwi eich cyfrifiad.
Mae'r cyfeiriad ar fy ffurflen yn anghywir
Ysgrifennwch eich cyfeiriad cywir yn y lle gwag ar flaen eich ffurflen. Mae cyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn. Wedyn, atebwch y cwestiynau ac anfonwch y ffurflen wedi ei llenwi yn ôl aton ni yn yr amlen rhadbost rydych chi wedi ei chael gyda'r ffurflen.
Cyngor ar lenwi ffurflen bapur
- Ysgrifennwch eich atebion mewn inc glas neu ddu
- Cofiwch roi pawb a oedd yn byw neu'n aros yn eich cartref nos Sul 21 Mawrth 2021
- Defnyddiwch briflythrennau, neu ticiwch y blychau fel yn y cyfarwyddiadau
- Mae'n bosibl byrhau geiriau, er enghraifft, "Rd" ar gyfer "Road" neu "DU" ar gyfer "y Deyrnas Unedig". Rhowch gymaint o fanylion ag y gallwch chi
- Ysgrifennwch un llythyren ym mhob blwch. Rhowch lythrennau dwbl fel "ll" neu "dd" mewn blychau ar wahân, fel hyn:

Cyngor ar anfon ffurflen bapur yn ôl ar ôl ei llenwi
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi llofnodi a dyddio'r datganiad ar dudalen flaen y ffurflen bapur
- Peidiwch ag anfon unrhyw beth arall aton ni – dim ond eich ffurflen bapur
- Defnyddiwch yr amlen rhadbost rydych chi wedi ei chael gyda'r ffurflen bapur
- Os ydych chi wedi colli eich amlen, anfonwch eich ffurflen bapur mewn amlen A4 i RHADBOST, Cyfrifiad 2021
- Anfonwch un ffurflen yn unig ym mhob amlen
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gallu gweld y cyfeiriad dychwelyd drwy ffenestr yr amlen yn glir
- Postiwch eich ffurflen bapur aton ni cyn gynted â phosibl, neu gofynnwch i rywun rydych chi'n ymddiried ynddo ei phostio hi ar eich rhan