Hygyrchedd
Mae ystod o fformatau hygyrch a chymorth arall ar gael i'ch helpu i ddysgu am y cyfrifiad a'i gwblhau.
Fformatau hygyrch
Mae gwybodaeth am y cyfrifiad ar gael yn y fformatau hygyrch canlynol:
Rydym ni'n defnyddio iaith syml a thestun dolen clir i'ch helpu chi i ddefnyddio gwefan y cyfrifiad. Gallwch ddefnyddio'r wefan gyda meddalwedd adnabod llais a gwrando gyda rhaglen darllen sgrin.
Mae'r datganiad hygyrchedd yn cynnwys mwy o fanylion o ran pa mor gydnaws yw'r wefan hon â thechnoleg gynorthwyol.
Os oes angen help arnoch
I gael help gyda'ch cyfrifiad, gallwch hefyd wneud y canlynol:
- gofyn i rywun arall ei gwblhau ar eich rhan, neu eich helpu os na allwch chi ei wneud eich hun
- dod o hyd i ganolfan cymorth y cyfrifiad, lle y gallwch gael help i gwblhau eich cyfrifiad ar lein
- defnyddio gwe-sgwrs, ein ffonio neu ddefnyddio'r system Text Relay o'r dudalen 'Cysylltu â ni'
- darllen cyfieithiadau o wybodaeth am y cyfrifiad mewn ieithoedd gwahanol
Mae canllawiau am sut y gallwch helpu rhywun arall i gwblhau'r cyfrifiad hefyd.