Cwch, carafán, pabell a chartref symudol arall : Cwch, fan, pabell neu gartref symudol arall mewn lleoliad parhaol
Byddwch chi'n cael llythyr, naill ai gan un o staff y cyfrifiad yn bersonol neu drwy'r post. Bydd hyn yn dibynnu ar p'un a yw eich angorfa neu'ch safle wedi ei gofrestru â'r Post Brenhinol ai peidio.
Yng Nghymru, bydd opsiwn i chi lenwi'r cyfrifiad yn Gymraeg neu yn Saesneg. Llenwch un ffurflen yn unig.
Os yw'r lleoliad wedi ei gofrestru â'r Post Brenhinol
Byddwn ni'n anfon llythyr â chod mynediad atoch chi i agor eich ffurflen ar-lein.
Os nad yw'r lleoliad wedi ei gofrestru â'r Post Brenhinol
Os ydych chi'n byw ar faes gwersylla neu farina, bydd staff y cyfrifiad yn danfon eich llythyr.
Os ydych chi'n byw ar angorfa, llain neu leoliad parhaol arall, bydd staff y cyfrifiad yn ceisio danfon ffurflenni i bob cartref y gallan nhw ddod o hyd iddo.
- Cysylltwch â ni i ofyn am god mynediad.
- Dywedwch wrth y cynghorydd nad oes gennych chi gyfeiriad.
- Rhowch fanylion i'r cynghorydd am eich lleoliad. Er enghraifft, eich tref, ardal neu dirnod agosaf.
- Derbyniwch eich cod mynediad drwy neges destun.
- Defnyddiwch eich cod i agor eich ffurflen ar-lein.
Ddylwn i lenwi ffurflen y cyfrifiad yn fan hyn?
Dylech chi lenwi ffurflen yma os ydych chi'n:
- breswylydd o'r Deyrnas Unedig sy'n byw neu sy'n bwriadu byw yn y lleoliad yma am 6 mis neu fwy
- preswylydd o'r Deyrnas Unedig sydd heb gyfeiriad arferol yn rhywle arall
- preswylydd o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig sy'n byw neu sy'n bwriadu byw yn y lleoliad yma am 3 mis neu fwy ac sydd heb gyfeiriad parhaol arall yn y Deyrnas Unedig
Beth ddylwn i ei wneud nesaf?
- Cadwch eich ffurflen yn saff.
- Llenwch y ffurflen bapur neu defnyddiwch y cod mynediad i lenwi ffurflen ar-lein.
- Atebwch yr holl gwestiynau am eich cartref.
- Rhowch y ffurflen bapur wedi ei llenwi yn yr amlen radbost a'i selio.
- Postiwch y ffurflen neu rhowch hi i reolwr y maes gwersylla neu'r marina i'w phostio ar eich rhan.
Beth ddylwn i ei roi fel fy nghyfeiriad?
Os oes gan eich llety gyfeiriad wedi ei gofrestru, defnyddiwch ef ar eich ffurflen.
Os ydych chi'n aros ar dir adeilad, defnyddiwch y cyfeiriad hwnnw.
Os nad oes gan eich lleoliad gyfeiriad wedi ei gofrestru, disgrifiwch eich lleoliad orau y gallwch chi.
Mae angen i mi gael help i lenwi'r ffurflen
Os ydych chi'n cael trafferth llenwi'r ffurflen, gall aelod o'r teulu neu ffrind eich helpu chi.
Gallwch chi ofyn i ni anfon cod mynediad newydd atoch chi mewn neges destun. Bydd hyn yn eich galluogi chi i agor ffurflen ar-lein newydd.
Os nad oes neb i helpu, cysylltwch â ni.