Sefydliad cymunedol : Rydw i'n rheoli sefydliad
Dyma gyngor i reolwyr a goruchwylwyr sefydliadau lle mae preswylwyr yn byw neu'n aros.
Y person sy'n goruchwylio'r sefydliad ar adeg llenwi ffurflen y cyfrifiad yw rheolwr y sefydliad cymunedol.
Os ydych chi'n rheoli sefydliad cymunedol, bydd staff y cyfrifiad yn rhoi eich pecynnau cyfrifiad i chi.
Help gyda'r cwestiynau ar y ffurflen i reolwyr sefydliadau cymunedol
Pa fath o sefydliad ydych chi'n ei reoli?
- Llety i fyfyrwyr
- Cartref gofal, ysbyty neu hosbis
- Gwesty, tŷ llety, gwesty gwely a brecwast neu hostel
- Ysgol breswyl neu gartref plant
- Llety i weithwyr, sefydliad crefyddol neu gomiwn
- Carchar, uned ddiogel neu sefydliad troseddwyr ifanc
- Canolfan filwrol
Beth fydd yn digwydd os na fydda' i'n llenwi'r ffurflen ar gyfer sefydliadau cymunedol?
Os na fyddwch chi'n anfon eich ffurflen ar gyfer sefydliadau cymunedol yn ôl, bydd staff y cyfrifiad yn cysylltu â chi. Mae peidio â llenwi'r ffurflen yn drosedd. Os byddwch chi'n cael eich erlyn, mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu dirwy o hyd at £1,000 yn ogystal â chostau llys.