Dywedwch wrthym a ydych chi'n derbyn cwcis ons.gov.uk

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth am y ffordd rydych chi’n defnyddio cyfrifiad.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i sicrhau bod y wefan yn gweithio cystal â phosibl ac i wella ein gwasanaethau.

You have accepted all additional cookies. You have rejected all additional cookies. You can change your cookie preferences at any time.

Neidio i’r prif gynnwy

Postiadau blog : Beth y gall map rhyngweithiol Cyfrifiad 2021 ei wneud a sut y gallaf ei ddefnyddio?

Census maps census website blog

Yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), gwnaethom gyhoeddi'r canlyniadau cyntaf o Gyfrifiad 2021 ym mis Mehefin 2022. Yna gwnaethom gyhoeddi'r cyntaf o'n cyfres o grynodebau pwnc Cyfrifiad 2021 ym mis Tachwedd 2022.

Yn ogystal â rhyddhau'r data o Gyfrifiad 2021, rydym hefyd wedi creu ffyrdd newydd a chyffrous o ryngweithio â'r data.

Rydym eisoes wedi ysgrifennu am sut mae erthyglau rhyngweithiol sy'n adrodd stori wrth sgrolio wedi dod â'r data yn fyw. Gallwch ddarllen mwy yn ein blog, Beth yw erthyglau rhyngweithiol Cyfrifiad 2021 sy'n adrodd stori wrth sgrolio?.

Rydym hefyd wedi creu "Map y cyfrifiad", sef map rhyngweithiol sy'n eich galluogi i gymharu data'r cyfrifiad mewn ardaloedd gwahanol ledled Cymru a Lloegr.

Beth yw Map y cyfrifiad?

Map rhyngweithiol yw adnodd Map y cyfrifiad sy'n eich galluogi i archwilio data Cyfrifiad 2021 ledled Cymru a Lloegr hyd at lefel cymdogaeth leol.

Mae data'r cyfrifiad yn gymhleth ac yn fanwl, sy'n golygu ei bod yn anodd eu deall heb wybodaeth arbenigol. Mae Map y cyfrifiad yn eich galluogi i archwilio'n hawdd a gweld y gwahaniaethau rhwng cymdogaethau.

Sut y gallwch ddefnyddio Map y cyfrifiad i chwilio yn ôl ardal?

Gallwch fynd i Fap y cyfrifiad (yn Saesneg) (opens in a new tab)  ar wefan SYG.

Census maps page showing England and Wales

Pan fydd y dudalen yn llwytho, byddwch yn gweld ei bod yn dewis "Cymru a Lloegr" fel yr ardal yn awtomatig. Mae hyn yn golygu, ar gyfer unrhyw bwnc a ddewiswch, y byddwch yn gweld data ar gyfer Cymru a Lloegr i gyd.

Gallwch ddewis ardal drwy chwyddo a'i dewis ar y map neu drwy deipio enw ardal neu god post i'r blwch chwilio Ardal.

Sut y gallwch ddefnyddio Map y cyfrifiad i chwilio yn ôl pwnc?

Gallwch hefyd chwilio yn ôl maes pwnc. Wrth i bynciau gael eu rhyddhau, byddwn yn eu hychwanegu i opsiynau chwilio Map y cyfrifiad.

Census maps page showing how to select a topic

Gallwch ddewis y pwnc o'ch dewis o'r rhai sydd ar gael drwy ddefnyddio'r blwch chwilio Pwnc. Er enghraifft, drwy deipio "maint y cartref". Gallwch hefyd ddewis pwnc sydd ar gael o'r dolenni categori o dan y blwch chwilio Pwnc.

Census maps page showing information about household size

Pan fyddwch wedi dewis pwnc, gallwch ddewis o "gategorïau" penodol ynddo. Er enghraifft, os gwnaethoch ddewis "maint y cartref", gallech wedyn ddewis o:

  • "1 person yn y cartref"
  • "2 berson yn y cartref"
  • "3 pherson yn y cartref"
  • "4 neu fwy o bobl yn y cartref"

Bydd y canlyniadau yn y map yn dangos canran y bobl neu'r cartrefi mewn ardal sy'n cyfateb i'r categori hwnnw. Po dywyllaf yw'r ardal, yr uchaf yw'r ganran.

Yna, gallwch chwyddo'r map i weld yr ardaloedd llai.

Rhannu, ymgorffori a lawrlwytho'r data

Nawr gallwch rannu'r data am yr ardal, y pwnc a'r categori a ddewiswyd gennych. Gallwch wneud hyn drwy gopïo URL y dudalen o far cyfeiriad y porwr gwefannau.

Bob tro y byddwch yn dewis pwnc neu ardal newydd, bydd yr URL hwn yn newid. Felly, bydd unrhyw un sy'n ymweld â'r un URL yn gweld yr un dewisiadau â chi.

Gallwch ymgorffori'r map yn eich gwefan eich hun drwy ddewis "ymgorffori'r map hwn" ar waelod y panel ochr. Copïwch a gludwch y cod HTML i'ch gwefan. Nodwch fod yn rhaid bod eich gwefan yn eich galluogi i ysgrifennu cod HTML a chynnwys "iframes" mewn tudalennau.

Gallwch hefyd lawrlwytho'r data o'r map fel taenlen Excel. Gallwch wneud hyn drwy ddewis y ddolen "lawrlwytho data". Bydd hyn yn mynd â chi i set ddata perthnasol Cyfrifiad 2021 ar wefan SYG.

Dechreuwch archwilio data Cyfrifiad 2021

Dysgwch am fywydau pobl yn eich ardal leol ar Ddiwrnod y Cyfrifiad drwy archwilio'r data ar Fap y cyfrifiad (yn Saesneg) (opens in a new tab)  a gwefan SYG.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein cynlluniau datganiadau a chynhyrchion Cyfrifiad 2021 ar dudalen y cyfrifiad (opens in a new tab)  ar wefan SYG.

Gallwch ddarllen mwy am wybodaeth dechnegol a datblygiadau Fap y cyfrifiad yn y dyfodol (yn Saesneg) (opens in a new tab)  ym mlog digidol SYG.