Postiadau blog : Beth yw erthyglau rhyngweithiol Cyfrifiad 2021 sy'n adrodd stori wrth sgrolio?

Yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), gwnaethom gyhoeddi'r canlyniadau cyntaf o Gyfrifiad 2021 (opens in a new tab) ddydd Mawrth 28 Mehefin 2022.
Amcangyfrifon o nifer y bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr yw'r canlyniadau cyntaf hyn. Maent yn dangos nifer y bobl yn ôl rhyw ac oedran ar lefel awdurdod lleol, wedi'u talgrynnu i'r 100 agosaf.
Bydd rhagor o ganlyniadau yn dilyn, a'n nod yw cyhoeddi'r holl brif ganlyniadau o fewn dwy flynedd i'r cyfrifiad. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gynlluniau datganiadau Cyfrifiad 2021 (opens in a new tab) ar wefan SYG.
Yn ogystal â rhyddhau'r data o Gyfrifiad 2021, byddwn hefyd yn cyhoeddi sylwadau neu waith dadansoddi er mwyn eu cefnogi a'u hegluro. Mae hyn yn cynnwys ffyrdd newydd a chyffrous o ryngweithio â'r data.
Un ffordd y byddwn yn dod â data'r cyfrifiad yn fyw yw drwy erthyglau rhyngweithiol sy'n adrodd stori wrth sgrolio.
Beth yw erthygl ryngweithiol sy'n adrodd stori wrth sgrolio?
Straeon ar-lein yw erthyglau sy'n adrodd stori wrth sgrolio, lle byddwch yn ysgogi animeiddiadau ac effeithiau eraill wrth i chi sgrolio drwy dudalen ar wefan.
Cryfder y fformat hwn yw ei allu i ennyn diddordeb y darllenydd a dod â stori yn fyw.
Yn SYG, rydym eisoes wedi cyhoeddi rhai erthyglau rhyngweithiol sy'n adrodd stori wrth sgrolio. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Pa swyddi sydd fwyaf tebygol o fod wedi cael gostyngiad cyflog yn ystod y pandemig? (opens in a new tab) (yn Saesneg)
- Archwilio anghyfartaledd mewn amddifadedd incwm lleol (opens in a new tab) (yn Saesneg)
- Beth yw'r gwahaniaethau rhanbarthol o ran incwm a chynhyrchiant? (opens in a new tab) (yn Saesneg)
Ond dyma'r tro cyntaf y byddwn yn cyhoeddi erthyglau rhyngweithiol gan ddefnyddio data Cyfrifiad 2021.
Pam rydym yn defnyddio erthyglau rhyngweithiol sy'n adrodd stori wrth sgrolio ar gyfer Cyfrifiad 2021?
Mae erthyglau rhyngweithiol sy'n adrodd stori wrth sgrolio yn ffordd wych o esbonio ac archwilio setiau data cymhleth.
Wrth i chi sgrolio i lawr y dudalen, bydd cysylltu'r testun â mapiau, siartiau a chynnwys arall yn gwneud patrymau a thueddiadau yn haws i'w deall. Yn dibynnu ar y data, mae'n bosibl hefyd y gallwch bersonoli'r erthygl drwy ddewis rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi, fel ble rydych chi'n byw.
Os oes diddordeb gennych yn yr ochr dechnegol, gallwch ddysgu mwy yn yr erthygl am sut rydym yn creu erthyglau sy'n adrodd stori wrth sgrolio (opens in a new tab) (yn Saesneg) ar flog digidol SYG.
Pa erthyglau rhyngweithiol am Gyfrifiad 2021 sy'n adrodd stori wrth sgrolio y byddwn yn eu cyhoeddi?
Byddwn yn cyhoeddi erthyglau rhyngweithiol sy'n adrodd stori wrth sgrolio i gefnogi pob cam o ganlyniadau Cyfrifiad 2021.
Ar gyfer y canlyniadau cyntaf, gwnaethom gyhoeddi erthyglau rhyngweithiol am:
- Stori'r cyfrifiad (opens in a new tab) (yn Saesneg)
- Sut newidiodd y boblogaeth ble rydych chi'n byw (opens in a new tab) (yn Saesneg)
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein cynlluniau datganiadau a chynhyrchion Cyfrifiad 2021 ar dudalen y cyfrifiad (opens in a new tab) ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).