Dywedwch wrthym a ydych chi'n derbyn cwcis ons.gov.uk

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth am y ffordd rydych chi’n defnyddio cyfrifiad.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i sicrhau bod y wefan yn gweithio cystal â phosibl ac i wella ein gwasanaethau.

You have accepted all additional cookies. You have rejected all additional cookies. You can change your cookie preferences at any time.

Neidio i’r prif gynnwy

Datganiadau i'r wasg : Canlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021 yn dangos bod y boblogaeth yn parhau i dyfu yng Nghymru a Lloegr

Roedd poblogaeth breswyl arferol Cymru a Lloegr yn 59,597,300 ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021.

Dyma'r boblogaeth fwyaf a gofnodwyd erioed drwy gyfrifiad yng Nghymru a Lloegr – cynnydd o fwy na 3.5 miliwn (6.3%) o gymharu â Diwrnod y Cyfrifiad yn 2011.

Mae'r boblogaeth yn heneiddio hefyd, gan fod 18.6% o bobl yn 65 a throsodd, o gymharu ag 16.4% ddegawd yn gynt.

Roedd 3,107,500 o bobl yng Nghymru a 56,489,800 o bobl yn Lloegr. Yn Lloegr, cynyddodd y boblogaeth bron 3.5 miliwn (6.6%) o'r amcangyfrif o'r boblogaeth yng Nghyfrifiad 2011, sef 53,012,456 o bobl. Roedd y gyfradd twf yn sylweddol is yng Nghymru, lle cynyddodd y boblogaeth 44,000 (1.4%) o'r amcangyfrif o'r boblogaeth yng Nghyfrifiad 2011, sef 3,063,456 o bobl.

Gan sôn am y niferoedd, dywedodd Dirprwy Ystadegydd Gwladol y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Pete Benton: “Mae ystadegau'r cyfrifiad heddiw yn dechrau creu ciplun cyfoethog a manwl o'r genedl a sut roeddem yn byw yn ystod y pandemig. Maent yn dangos bod poblogaeth Cymru a Lloegr wedi parhau i dyfu yn ystod y degawd, er bod hynny ar gyfraddau gwahanol ar draws y rhanbarthau.

“Yn y pen draw, bydd y gyfres lawn o ganlyniadau'r cyfrifiad, yn seiliedig ar y wybodaeth a roddwyd gan bob un ohonom, yn sicrhau bod penderfyniadau ynghylch y biliynau o bunnoedd rydym yn eu gwario bob blwyddyn fel cenedl yn cael eu gwneud gan ddefnyddio’r dystiolaeth orau bosibl. Mae hyn yn cynnwys cynllunio ein gwasanaethau brys, gofal iechyd meddwl, lleoedd mewn ysgolion, gwelyau mewn ysbytai, tai, ffyrdd, bysiau, trenau, tramiau, meddygfeydd a gwasanaethau deintyddol.”

Ychwanegodd Pete: “Ers Diwrnod y Cyfrifiad, mae'r byd wedi parhau i newid. Mae pobl yn parhau i symud tŷ, bydd rhai pobl wedi gadael y wlad, bydd eraill wedi cyrraedd. Bydd pobl wedi newid swyddi, mae rhai ohonom yn gweithio mewn swyddfeydd unwaith eto, tra bo eraill yn parhau i weithio gartref.

“Mae angen i ni ddeall hyn i gyd a mwy. Mae'r canlyniadau o Gyfrifiad 2021 – ac mae llawer mwy i ddod – felly'n cynnig pont bwysig o'r gorffennol i'r dyfodol wrth i ni ddarparu ystadegau mwy rheolaidd, perthnasol ac amserol gan ddefnyddio data o bob rhan o'r llywodraeth i'n galluogi i ddeall newidiadau yn y boblogaeth mewn ardaloedd lleol eleni a thu hwnt.”

Mae amcangyfrifon cyntaf Cyfrifiad 2021 yn dangos mai'r rhanbarth lle cynyddodd y boblogaeth fwyaf oedd Dwyrain Lloegr, a gynyddodd 8.3% o 2011 (cynnydd o oddeutu 488,000 o bobl). De-orllewin Lloegr a Llundain oedd yr ardaloedd â'r cyfraddau uchaf o dwf yn y boblogaeth.

Dysgwch fwy am y ffordd y mae'r boblogaeth wedi newid mewn ardaloedd awdurdod lleol gwahanol a sut maent yn cymharu â rhai eraill ledled Cymru a Lloegr yn yr erthygl ryngweithiol hon.

Canfyddiadau allweddol eraill:

Roedd 30,420,100 o fenywod (51.0% o'r boblogaeth) a 29,177,200 o ddynion (49.0%) yng Nghymru a Lloegr.

Ledled Cymru a Lloegr, yr awdurdodau lleol lle roedd y canrannau uchaf o'r boblogaeth yn 65 oed a throsodd oedd Gogledd Norfolk (33.4%) a Rother (32.4%). Dwyrain Dyfnaint oedd â'r ganran uchaf o'r boblogaeth 90 oed a throsodd (1.9%), a Rother yn ail (1.8%).

O gymharu â rhanbarthau eraill Lloegr, Llundain oedd â'r ganran fwyaf o bobl rhwng 15 a 64 oed (70.0%).

  • Yr awdurdodau lleol â'r canrannau uchaf o bobl dan 15 oed oedd Barking a Dagenham (24.5%), Slough (23.5%) a Luton (21.9%).
  • Roedd 24,782,800 o gartrefi yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad; cynyddodd nifer y cartrefi fwy nag 1.4 miliwn ers 2011 (6.1%), pan oedd 23,366,044 o gartrefi.
  • Roedd 395 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr yng Nghymru a Lloegr yn 2021. Mae hyn tua'r un faint â 2.8 preswylydd fesul darn o dir maint cae pêl-droed. Mae'n cymharu â 371 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr yn 2011 a 251 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr ganrif yn ôl yn 1921.

Y ffigurau hyn am y boblogaeth a chartrefi yw'r rhai cyntaf mewn cyfres o ddata Cyfrifiad 2021 a gaiff eu rhyddhau dros y ddwy flynedd nesaf. O fis Hydref, tan ddiwedd y flwyddyn, caiff adroddiadau crynodeb pwnc cychwynnol, gan gynnwys demograffeg, mudo, ethnigrwydd, crefydd, cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig, addysg, iechyd, y farchnad lafur, cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd, eu rhyddhau. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma.

Amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Nodyn i olygyddion:

  • Rydym wedi creu gêm ryngweithiol am y boblogaeth lle gallwch ddyfalu a yw nifer y bobl sy'n byw mewn ardal yn uwch neu'n is nag ardal gyfagos. Mae'r cod mewnosodedig ar gael yma.
  • Ym mis Gorffennaf, byddwn yn esbonio sut rydym yn trawsnewid ein hystadegau poblogaeth a mudo y tu hwnt i gyfrifiad traddodiadol. Byddwn yn cyhoeddi prawf o gysyniad ar gyfer cynhyrchu amcangyfrifon poblogaeth yn ‘yn seiliedig ar ddata gweinyddol’ gan ddefnyddio gwybodaeth o ffynonellau data iechyd, treth, budd-daliadau ac addysg, ymhlith rhai eraill. Byddwn hefyd yn cyhoeddi dyluniad ystadegol ar gyfer amcangyfrifon mudo yn seiliedig ar ddata gweinyddol.