Dywedwch wrthym a ydych chi'n derbyn cwcis ons.gov.uk

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth am y ffordd rydych chi’n defnyddio cyfrifiad.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i sicrhau bod y wefan yn gweithio cystal â phosibl ac i wella ein gwasanaethau.

You have accepted all additional cookies. You have rejected all additional cookies. You can change your cookie preferences at any time.

Neidio i’r prif gynnwy

Datganiadau i'r wasg : Cyfle olaf i gwblhau'r cyfrifiad ar lein

Dim ond ychydig ddiwrnodau sydd ar ôl i chi gwblhau Cyfrifiad 2021 ar lein, gan y bydd yr holiadur electronig yn cau ddydd Llun 24 Mai.

Mae 97% o gartrefi – ffigur anhygoel – ledled Cymru a Lloegr eisoes wedi cymryd rhan i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cyfrif ar gyfer gwasanaethau lleol fel meddygfeydd, lleoedd mewn ysgolion a gwelyau mewn ysbytai.

Fodd bynnag, mae'n rhaid i'r rhai nad ydynt wedi llenwi eu ffurflen wneud hynny yn ôl y gyfraith, a dylen nhw gwblhau'r cyfrifiad nawr er mwyn osgoi cael dirwy o £1,000.

Dim ond tua 10 munud fesul unigolyn y mae'n ei gymryd i'w gwblhau ar lein. Fodd bynnag, dim ond holiaduron papur y gellir eu dychwelyd ar ôl 24 Mai. Os bydd pobl yn gwrthod cymryd rhan, gallen nhw orfod mynd i'r llys, a chael dirwy a chofnod troseddol.

Bydd y cam diffyg cydymffurfio yn dechrau ar 25 Mai, a bydd timau arbenigol yn ymweld â'r rhai nad ydyn nhw wedi ymateb eto. Byddan nhw'n cyfweld â chartrefi dan rybuddiad.

Ni fyddan nhw byth yn rhoi dirwy nac yn gofyn am daliad ar garreg y drws, dros y ffôn neu drwy neges destun, neu ar y cyfryngau cymdeithasol. I gael dirwy, rhaid i'ch achos fynd i'r llys am beidio â chwblhau'r cyfrifiad.

Dywedodd Iain Bell, dirprwy ystadegydd gwladol y Swyddfa Ystadegau Gwladol: “Rydym ni wedi cael ymateb rhyfeddol i Gyfrifiad 2021 hyd yma, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan. Bydd y wybodaeth rydych chi wedi'i darparu yn helpu i lywio penderfyniadau sy'n effeithio ar ein bywydau pob dydd, o lwybrau bysiau i feddygfeydd, am flynyddoedd i ddod.

“Mae'n hynod bwysig bod unrhyw un sydd heb ymateb eto yn gwneud hynny cyn gynted â phosibl.”

Caiff sampl o gartrefi eu gwahodd i gymryd rhan yn Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad (ACC) hefyd. Mae'r arolwg byr ar wahân hwn, a gaiff ei arwain gan gyfwelydd, yn ffordd bwysig o alluogi SYG i gael trosolwg terfynol o'r cyfraddau ymateb. Drwy gymryd rhan, byddwch chi'n gwella ansawdd y wybodaeth a gaiff ei chasglu yn y cyfrifiad. Bydd hyn, yn ei dro, yn helpu i gynllunio ac ariannu gwasanaethau lleol yn eich cymuned.

Bydd cymorth a holiaduron papur ar gael ar gais tan 11 Mehefin drwy ganolfan gyswllt y cyfrifiad ar radffon 0800 169 2021 yng Nghymru a 0800 141 2021 yn Lloegr.