Datganiadau i'r wasg : Cyfrifiad 2021 yn Datgelu Arwyr Cymunedol ledled Cymru a Lloegr
Yn dilyn blwyddyn na welwyd ei thebyg o'r blaen, mae 22 o blaciau porffor – un i bob cyfrifiad sydd wedi cael ei gynnal hyd yma – wedi cael eu cyflwyno i arwyr cymunedol o bob cwr o Gymru a Lloegr.
A ninnau ar drothwy diwrnod y cyfrifiad, mae pobl gyffredin yn cael eu dathlu am eu cyfraniadau eithriadol ac er mwyn tynnu sylw at y ffordd y mae canfyddiadau'r cyfrifiad yn helpu i greu cymunedau gwell. O wirfoddoli yn ystod y pandemig i gefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl, mae'r enillwyr wedi gwneud gwahaniaeth syfrdanol yn ystod cyfnod anodd.
Cafodd y ceisiadau eu beirniadu gan banel o hyrwyddwyr cymunedol nodedig, dan arweiniad yr actores a'r gyflwynwraig Joanna Page.
Dywedodd Joanna Page: “Roedd yn anrhydedd cael bod yn feirniad ar banel gwobrau arwyr cymunedol Cyfrifiad 2021. Roeddwn i wrth fy modd yn darllen drwy'r holl geisiadau rhyfeddol. A hithau wedi bod yn flwyddyn anodd i gymaint ohonom ni, roedd hwn yn gyfle gwych i ddiolch i'r bobl sy'n mynd yr ail filltir i wasanaethu eu cymunedau lleol.”
Dywedodd Iain Bell, dirprwy ystadegydd gwladol SYG:
“Mae wedi bod yn anhygoel gweld yr ymateb gan gymunedau lleol i'r wobr hon, sydd wedi denu cannoedd o geisiadau o bob rhan o Gymru a Lloegr. Mae hyn yn dyst i'r holl bobl anhygoel sy'n gwneud pethau rhyfeddol, a'r ffaith bod y flwyddyn anodd hon wedi dod â chryfderau pobl i'r amlwg. Gall pob un ohonom wneud rhywbeth, ni waeth pa mor fawr, i helpu'r bobl o'n cwmpas.”
Bydd y cyfrifiad, a gaiff ei gynnal ar 21 Mawrth 2021, yn taflu goleuni ar anghenion grwpiau a chymunedau gwahanol, a'r anghydraddoldebau mae pobl yn eu profi, gan sicrhau y bydd y penderfyniadau mawr a fydd yn wynebu'r wlad yn dilyn y pandemig a gadael yr Undeb Ewropeaidd yn seiliedig ar y wybodaeth orau bosibl.
Bydd Cyfrifiad 2021 yn llywio penderfyniadau cenedlaethol a lleol am wasanaethau a materion hanfodol. Yn y pen draw, bydd yn sicrhau bod miliynau o bunnau yn cael eu buddsoddi mewn gwasanaethau brys, gofal iechyd meddwl, lleoedd mewn ysgolion, gwelyau mewn ysbytai, tai, ffyrdd, gwasanaethau meddygon teulu a deintyddion – i gyd yn seiliedig ar y wybodaeth y bydd pobl yn ei rhoi.
Mae'n hawdd i bobl gwblhau'r cyfrifiad ar lein ar unrhyw ddyfais, ac mae help a holiaduron papur ar gael i bobl os bydd angen. Erbyn hyn, dylai cartrefi fod wedi cael gwybodaeth drwy'r post am y cyfrifiad a sut i'w gwblhau ar lein.
Rhagor o wybodaeth: https://cyfrifiad.gov.uk/arwyr-cyfrifiad-2021/ (opens in a new tab)

Am ragor o wybodaeth neu ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill gan y cyfryngau anfonwch e-bost i censuspressoffice@mcsaatchi.com (opens in a new tab)
Nodiadau i Olygyddion
Rhestr Lawn o'r Enillwyr
- Floyd Haughton am ddarparu prydau bwyd i weithwyr allweddol a staff rheng flaen yn ei gymuned leol yng Nghaerdydd yn ystod y pandemig. Gan adeiladu ar ei fenter COVID-19, lansiodd Floyd ddathliadau Mis Hanes Pobl Dduon Cymru 2020 a Black History Cymru 365 drwy ddosbarthu prydau bwyd cartref i 22 o hynafgwyr Windrush yng Nghymru.
- Patrick Mulder am ei waith yn sefydlu rhwydweithiau gwirfoddolwyr ar gyfer ei gymuned yn Abertawe. Mae wedi helpu i ddosbarthu cannoedd o bresgripsiynau, postio llythyrau, yn ogystal â siopa ar ran pobl agored i niwed a danfon parseli bwyd iddynt yn ystod y pandemig.
- Mirta a Jason Beasant am eu gwasanaeth i'w cymuned leol yn Nhrelales drwy gydol y pandemig, yn danfon parseli i'r bobl a oedd yn cael eu gwarchod ac yn mynd yr ail filltir wrth redeg eu siop leol.
- Pamela am ei gwasanaeth i'r Fforwm Cymdeithasol Caribïaidd, sef grŵp cymdeithasol i'r gymuned Garibïaidd oedrannus yn Llundain. Mae'r grŵp hwn yn rhan o wead cymuned Woolwich, yn helpu pobl hŷn i ymdopi ag unigrwydd a dementia, ac yn cynnig lle iddynt siarad, chwarae gemau bwrdd a chymdeithasu.
- Safia Jama am ei gwasanaeth i raglenni ieuenctid, prosiectau grymuso menywod a chymorth iechyd meddwl yn ei chymuned leol yn Llundain.
- Kerry Irving am ei wasanaeth i'w gymuned leol a thu hwnt (mae'n fyd-enwog!) ochr yn ochr â'i dri Sbaniel ysblennydd. Oherwydd ei gefnogaeth i elusen anifeiliaid PDSA, a'i frwydr ei hun ag iselder, mae wedi dod yn fodel rôl ac yn eiriolwr gwych dros bobl â phroblemau iechyd meddwl. Drwy gydol cyfnod y cyfyngiadau symud, bu'n ffrydio'n fyw wrth fynd â Max, Paddy a Harry am dro, gan ddenu cryn dipyn o gefnogwyr.
- Sulayman am ei wasanaeth i'w gymuned leol yn Buckingham. Bachgen ifanc 14 oed yw Sulayman, a chafodd ei ysbrydoli gan Marcus Rashford i sefydlu Buckingham Free Meals, sy'n darparu prydau poeth a pharseli bwyd i bobl mewn angen yn yr ardal leol.
- Jane Stanford-Beale am ei gwasanaeth gwirfoddol i'w chymuned leol yn Berkshire, yn cefnogi teuluoedd plant ag awtistiaeth. Sicrhaodd fod teuluoedd yn parhau i gael y cymorth roedd ei angen arnynt drwy ymateb yn gyflym i'r cyfyngiadau symud a rhoi ei gwasanaethau ar lein.
- Jack Littlejohns am ei wasanaeth i chwaraeon a chodi arian yn ei gymuned leol yng Ngogledd Dyfnaint ar ran Clwb Pêl-droed Barnstaple Ability. Hefyd, yn ddiweddar, cyrhaeddodd rownd derfynol Gwobr Arwr Anhysbys Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC ar gyfer rhanbarth De-orllewin Lloegr.
- Tracey Fleming am ei hymroddiad i'w chymuned yng Nghernyw, yn darparu gwasanaethau tecawê a pharseli bwyd ar garreg y drws i bobl a oedd yn hunanynysu ac yn gwarchod yn ystod y pandemig.
- Mat Callaghan am ei wasanaeth i'w gymuned leol yn Yeovil, yn gwirfoddoli ym manc bwyd Lord's Larder am flynyddoedd lawer a chodi £50,000 mewn rhoddion yn 2020.
- Kate Turner am ei gwasanaeth i'w chymuned leol ym Midsomer Norton a darparu addysg ar leihau gwastraff.
- Bernadetta Omondi am ei gwasanaeth i'w chymuned leol yn Peterborough, yn siopa ac yn danfon bwyd i bobl mewn angen. Hefyd, hi yw cadeirydd pwyllgor Mis Hanes Pobl Dduon a phwyllgorau eraill, ac mae bob amser yn hybu cydlyniant a chynhwysiant i bawb.
- Mick Pescod am ei wasanaeth i'w gymuned leol yn St Neots, yn rhoi bwyd, nwyddau hanfodol a chymorth i bobl ddigartref. Ers 2016, mae ei elusen, 3 Pillars, wedi darparu mwy na 30,000 o brydau bwyd i bobl ddigartref.
- Fareeha Usman am ei gwasanaeth i'w chymuned leol yn Ashington drwy waith ym meysydd cynhwysiant, gwaith elusennol a chodi arian. Hi yw sylfaenydd Being Woman, sy'n elusen yn Northumberland. Roedd gan Fareeha weledigaeth o sylfaenu sefydliad a allai leddfu poen pobl sy'n dioddef o wahaniaethu ar sail rhywedd.
- Anthony Wright am ei wasanaeth i'w gymuned leol yn Dunston. Mae Anthony wedi mynd ati'n ddihunan i gefnogi trigolion oedrannus, agored i niwed a llai ffodus Dunston a'i dref enedigol, sef Consett, County Durham. Mae wedi sicrhau bod pobl mewn angen wedi cael prydau poeth, wedi darparu te prynhawn i breswylwyr cartrefi gofal, ac wedi cynnig rhoddion mewn rafflau ar ei draul ei hun.
- Marilyn a Michael Holt am eu gwasanaeth i'w cymuned leol yn Rochdale drwy ddarparu gwasanaeth maethu. Cafodd Marilyn a Michael eu cymeradwyo'n ofalwyr maeth ym mis Ionawr 1976, sy'n golygu mai eleni yw eu 45ain flwyddyn fel gofalwyr maeth ar ran Cyngor Bwrdeistref Rochdale. Maent wedi gofalu am fwy na 300 o blant dros y blynyddoedd.
- Michael Johnson-Ellis am ei wasanaeth i'w gymuned leol yn Hagley ac am gynnig cymorth ym maes Ffrwythlondeb a Benthyg Croth i gymunedau LGBTQ+. Michael yw cyd-sylfaenydd The Modern Family Show, sef yr unig ddigwyddiad tyfu teulu i bobl LGBTQ yn y Deyrnas Unedig, My Surrogacy Journey, sef sefydliad Benthyg Croth nid-er-elw diweddaraf y Deyrnas Unedig ac, yn amlwg, TwoDads UK – y prif frand sy'n gysylltiedig â hyrwyddo teuluoedd â rhieni o'r un rhyw a phwynt gwybodaeth i Dadau Arfaethedig.
- Clive Lawrence am ei wasanaeth i'w gymuned leol yn Derby drwy annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon a darparu ar gyfer pobl a oedd yn gwarchod yn ystod pandemig COVID-19. Mae Clive a'i staff wedi codi arian i brynu nwyddau hanfodol (llaeth, bara, pethau ymolchi ac ati) i'r teuluoedd hynny ac yna wedi'u prynu a'u dosbarthu. Maen nhw wedi casglu presgripsiynau, wedi cadw morâl yn uchel yn eu cymuned leol ac wedi ceisio cynnwys pawb ar bob cyfle.
- Donna Varley am ei gwasanaeth i'w chymuned leol yn Leeds. Bu'n helpu teuluoedd a oedd mewn angen dybryd, boed am ddillad, teganau i blant adeg y Nadolig neu bethau ymolchi, drwy lansio Project Kaison Saves Christmas ac ers hynny mae wedi bod yn creu hamperi bwyd i deuluoedd anghenus ac yn helpu i ddarparu hamperi i bobl mewn cartrefi preswyl.
- Peter Singh am ei wasanaeth i'w gymuned leol yn Doncaster drwy wirfoddoli a chodi arian. Mae Peter wedi mynd y tu hwnt i'w waith gwirfoddoli elusennol arferol drwy sicrhau bod defnyddwyr ei ganolfan gymunedol a thrigolion a oedd yn cael eu gwarchod yn gallu cael gafael ar lechi a ffonau drwy gydol y pandemig i sicrhau y gallant ddefnyddio'r rhyngrwyd er mwyn osgoi teimlo'n ynysig a chadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau. Mae hefyd wedi cydgysylltu'r gwaith o ddanfon bwyd ffres a nwyddau hylendid a nwyddau'r cartref i'r henoed, pobl a oedd yn cael eu gwarchod, a theuluoedd ar incymau isel.
- Ken o ‘Everton in the Community’
Gwybodaeth am Gyfrifiad 2021
Mae pawb yn cael budd o'r cyfrifiad. Mae'n llywio penderfyniadau yn genedlaethol ac yn lleol o ran gwasanaethau hanfodol a materion fel amrywiaeth. Yn y pen draw, mae'n sicrhau bod miliynau o bunnau yn cael eu buddsoddi mewn gwasanaethau brys, gofal iechyd meddwl, lleoedd mewn ysgolion, gwelyau mewn ysbytai, tai, ffyrdd, meddygfeydd a gwasanaethau deintyddol – i gyd yn seiliedig ar y wybodaeth y mae pobl yn ei rhoi. Rydym wedi'i gwneud hi'n haws i bobl gwblhau'r cyfrifiad ar lein ar unrhyw ddyfais, ac mae help a holiaduron papur ar gael i bobl os bydd angen.
Caiff y cyfrifiad nesaf ei gynnal ar 21 Mawrth 2021 yng Nghymru a Lloegr a bydd y canlyniadau ar gael y flwyddyn ganlynol. Fodd bynnag, caiff cofnodion personol eu cadw dan glo am 100 mlynedd, yn ddiogel ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gwybodaeth am y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn llunio'r ffigurau sydd bwysicaf oll – ar yr economi a busnes, pobl, y boblogaeth a chymunedau. Gan weithredu'n ddiduedd a heb unrhyw reolaeth wleidyddol, rydym yn manteisio ar bŵer data er mwyn helpu Prydain i wneud penderfyniadau gwell a gwella bywydau.
I drefnu cyfweliadau cysylltwch â swyddfa’r wasg ar 0845 604 1858 neu 0203 684 5070 neu ebostiwch Media.Relations@ons.gov.uk (opens in a new tab)