Postiadau blog : Enillwyr cystadleuaeth Gadewch i ni Gyfrif! yn datgelu ffigur poblogaeth Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru

Mae'r canlyniadau cyntaf o Gyfrifiad 2021 (opens in a new tab) yma!
Ddydd Mawrth 28 Mehefin 2022, gwnaethom gyhoeddi'r amcangyfrifon am nifer y bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr.
Mae'r ffigurau hyn yn dangos nifer y bobl yn ôl rhyw ac oedran ar lefel awdurdod lleol, wedi'u talgrynnu i'r 100 agosaf.
Gwnaethom gyhoeddi sylwadau a gwaith dadansoddi ochr yn ochr â'r data er mwyn eu cefnogi a'u hegluro. Roedd hyn yn cynnwys ffyrdd newydd a chyffrous o ryngweithio â data'r cyfrifiad, fel erthyglau rhyngweithiol sy'n adrodd stori wrth sgrolio.
Ond roedd angen rhywfaint o help arnom i gyhoeddi'r amcangyfrifon poblogaeth newydd hyn.
Cyhoeddi ffigur poblogaeth Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru
Cyn Cyfrifiad 2021, gwnaethom gynnal rhaglen addysg o'r enw Gadewch i ni Gyfrif! er mwyn addysgu plant am y cyfrifiad, o gasglu gwybodaeth i gyhoeddi’r canlyniadau.
Yn dilyn llwyddiant ysgubol yn 2021, gwnaethom estyn rhaglen benigamp Gadewch i ni Gyfrif!
Roedd Gadewch i ni Gyfrif! 2021 yn cynnwys cystadleuaeth i blant gyfrif gwrthrychau o amgylch eu hysgol neu eu cymuned a chreu arddangosfa wal yn dangos y canlyniadau.
Roedd y wobr i'r ysgolion buddugol yn cynnwys y cyfle i ddatgelu ffigurau poblogaeth Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr.
A dyna'n union beth ddigwyddodd ar 28 Mehefin.
Mae'r fideo hwn yn dangos i chi beth ddigwyddodd pan gyhoeddodd disgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail yn y Porth ffigur poblogaeth Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru.
Trawsgrifiad o'r fideo 'Yr amcangyfrif poblogaeth cyntaf ar gyfer Cymru'.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein cynlluniau datganiadau a chynhyrchion Cyfrifiad 2021 ar dudalen y cyfrifiad (opens in a new tab) ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).