Datganiadau i'r wasg : Gwers fideo arbennig yn cael ei rhannu fel rhan o adnoddau penigamp i ysgolion ar y cyfrifiad
Mae gwers fideo arbennig ar gyfer ysgolion cynradd a gyflwynir gan yr Ystadegydd Gwladol, yr Athro Syr Ian Diamond, bellach ar gael fel rhan o ymgyrch lwyddiannus Gadewch i ni Gyfrif! eleni.
Yn y wers, mae Syr Ian, ynghyd ag arbenigwyr eraill o SYG, yn archwilio pa mor ddefnyddiol yw data'r cyfrifiad yn ein bywydau pob dydd ac mae'n edrych ymlaen at ein cyhoeddiad cyntaf ar y boblogaeth yr haf hwn.
Y fideo hwn yw'r diweddaraf mewn cyfres o adnoddau addysgu difyr a diddorol sydd wedi'u creu gan iChild a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Daw'r rhaglen â data'r cyfrifiad yn fyw yn yr ystafell ddosbarth ac, ers iddi gael ei lansio ym mis Ionawr, mae mwy na 1,800 o ysgolion ledled Cymru a Lloegr wedi cofrestru i gymryd rhan.
Mae llawer o ysgolion bellach yn cynllunio eu diwrnod Gadewch i ni Gyfrif! eu hunain, pan gaiff plant eu herio i gyfrif rhywbeth perthnasol allan ar yr iard, neu yn eu hysgol neu eu cymuned.
I gael gafael ar yr adnoddau ar unwaith, gall ysgolion gofrestru ar gyfer rhaglen eleni yn https://letscount.ichild.co.uk (opens in a new tab)
Mae'r adnoddau yn cynnwys pum gwers hawdd eu defnyddio sy'n mynd â phlant ar daith o gasglu'r data i'w dadansoddi, a chyhoeddi'r canfyddiadau. Mae pob gwers ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ac yn addas ar gyfer dysgu yn yr ystafell ddosbarth ac o bell.
Dywedodd yr Athro Syr Ian Diamond: “Roedd yn bleser recordio'r wers hon ar gyfer plant – gobeithio y byddant, fel fi, yn cael eu hysbrydoli gan ystadegau. Y llynedd, gwnaeth mwy na 9,000 o ysgolion cynradd ledled Cymru a Lloegr gymryd rhan yn Gadewch i ni Gyfrif! Drwy'r ysgolion hyn, gwnaeth dros 2.2 miliwn o blant a'u rhieni ddysgu am bwysigrwydd y cyfrifiad. Mae'n wych gweld bod y rhaglen yn boblogaidd eto eleni, ac edrychaf ymlaen at glywed am y data diddorol y gallant eu casglu ar eu hysgol a'u hardal leol.”
Dywedodd Phil Bird, Prif Swyddog Gweithredol Family & Education/iChild: “Mae'n bleser gennym lansio'r wers fideo newydd hon gyda SYG a'r Athro Syr Ian Diamond fel rhan o Gadewch i ni Gyfrif! 2022. Mae'n ffordd wych i blant ddysgu am y cyhoeddiad pwysig sydd ar ddod am y boblogaeth. Mae taflen waith am ddim i gyd-fynd â'r fideo hefyd wedi cael ei datblygu, sy'n galluogi'r disgyblion i ddylunio eu ‘Lle Delfrydol’.
"Mae Gadewch i ni Gyfrif 2022 yn cefnogi sgiliau rhifedd, hanes, daearyddiaeth ac ysgrifennu. Mae'r adnoddau am ddim yn defnyddio canlyniadau'r cyfrifiad fel sbardun a gellir eu gwneud yn berthnasol i ardal leol ysgol. Bydd plant yn dysgu am bwysigrwydd canlyniadau'r cyfrifiad a sut maent yn cefnogi gwasanaethau lleol. Rydym yn annog ysgolion cynradd a hoffai gymryd rhan a gwylio'r fideo gwych hwn i gofrestru heddiw!”
Cymerodd Ysgol Gynradd Gatholig St Giles yn Stoke-on-Trent ran yn Gadewch i ni Gyfrif! 2021 a bydd yn gwneud hynny eto eleni. Dywedodd Kate Haines, Arweinydd Mathemateg: “Roedd broses y cyfrifiad yn ddiddorol iawn i'r plant y llynedd. Roeddent yn hoff iawn o'r syniad y gallai mathemateg a data'r cyfrifiad gael effaith wirioneddol ar eu hardal leol a'u bywydau pob dydd. Gwnaethant fwynhau defnyddio'r adnoddau gwersi a ddarparwyd ac roedd y cathod cyfrif yn boblogaidd iawn gyda phob grŵp blwyddyn! Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gymryd rhan eto eleni.” Cofrestrwch yma: https://letscount.ichild.co.uk (opens in a new tab)