Dywedwch wrthym a ydych chi'n derbyn cwcis ons.gov.uk

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth am y ffordd rydych chi’n defnyddio cyfrifiad.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i sicrhau bod y wefan yn gweithio cystal â phosibl ac i wella ein gwasanaethau.

You have accepted all additional cookies. You have rejected all additional cookies. You can change your cookie preferences at any time.

Neidio i’r prif gynnwy

Datganiadau i'r wasg : Mae amser i gwblhau Cyfrifiad 2021 o hyd

Diwrnod y Cyfrifiad oedd dydd Sul 21 Mawrth, ond mae'n hanfodol bod y rhai nad ydynt wedi'i gwblhau eto yn gwneud hynny cyn gynted â phosibl.

Ddydd Sul 21 Mawrth aeth miliynau o bobl ledled Cymru a Lloegr ati i ateb cwestiynau allweddol amdanyn nhw eu hunain a’u cartrefi er mwyn sicrhau y caiff gwasanaethau lleol ym mhob cymuned eu llywio gan y wybodaeth orau posibl.

Fodd bynnag, i'r rhai hynny nad ydynt wedi cyflwyno eu holiaduron eto – ar lein neu ar bapur – neu'r rhai sydd efallai wedi colli eu llythyr gwahoddiad, mae llawer o help ar gael.

“Mae angen i'r wybodaeth a rowch ymwneud â phwy sy'n byw yn eich cartref fel arfer ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, sef dydd Sul 21 Mawrth ond, os nad ydych chi wedi llenwi eich holiadur eto, cofiwch wneud hynny – mae amser ar ôl o hyd,” meddai Dirprwy Ystadegydd Gwladol y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Iain Bell.

“Dylai pob cartref fod wedi cael llythyr yn ei wahodd i gymryd rhan ac rydym ni wedi cael ymateb gwych hyd yma. Os nad ydych chi wedi cael eich llythyr, neu os ydych chi wedi'i golli, gallwch fynd ar lein i www.cyfrifiad.gov.uk (opens in a new tab)  a gofyn am god mynediad unigryw newydd.

“Mae digon o help ar gael, gan gynnwys cymorth wyneb yn wyneb yng Nghanolfannau Cymorth lleol y Cyfrifiad.

“Cyn bo hir, bydd swyddogion maes yn dechrau ymweld â chartrefi nad ydynt wedi cwblhau eu cyfrifiad. Byddant yn dilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol a chadw'n ddiogel rhag COVID-19, gan helpu pobl i gymryd rhan.

“Byddant yn gwisgo cyfarpar diogelu personol ac ni fydd byth angen iddynt fynd i mewn i gartrefi pobl. Byddant yn gweithredu mewn ffordd debyg i weithwyr post neu gwmnïau danfon bwyd.”

Bydd canlyniadau'r cyfrifiad yn taflu goleuni ar anghenion grwpiau a chymunedau gwahanol, a'r anghydraddoldebau mae pobl yn eu profi, gan sicrhau y bydd y penderfyniadau mawr a fydd yn wynebu'r wlad yn dilyn y pandemig ac ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn seiliedig ar y wybodaeth orau posibl, drwy'r atebion dienw a gaiff eu rhoi.

Ni fydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol byth yn rhannu manylion personol ac ni fydd neb, gan gynnwys cyrff y llywodraeth, yn gallu eich adnabod chi yn ystadegau'r cyfrifiad. Caiff cofnodion personol y cyfrifiad eu cadw'n ddiogel am 100 mlynedd a dim ond wedyn y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn gallu eu gweld.

Os na fydd pobl yn cwblhau'r cyfrifiad, efallai y bydd yn rhaid iddynt dalu dirwy o hyd at £1,000.

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut i ddod o hyd i un o ganolfannau cymorth lleol y cyfrifiad, ewch i www.cyfrifiad.gov.uk (opens in a new tab) .