Datganiadau i'r wasg : Un ar ddeg celwydd am Gyfrifiad 2021
Mae Cyfrifiad 2021 drosodd – mae Diwrnod y Cyfrifiad wedi bod felly does dim angen llenwi'r ffurflen
Oes! Rhaid i bob cartref gwblhau'r cyfrifiad yn ôl y gyfraith ac, er bod Diwrnod y Cyfrifiad a oedd ar 21 Mawrth 2021, wedi bod erbyn hyn, nid yw'n rhy hwyr i lenwi'r holiadur. Rydym ni wedi cael ymateb gwych i Gyfrifiad 2021 hyd yma, ond mae angen i bawb ymateb cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi dirwy.
Dyw myfyrwyr ddim yn cyfrif yn y cyfrifiad
Mae myfyrwyr yn hollbwysig ac yn cyfrif! Mae angen i bob myfyriwr gael ei gynnwys yn y cyfrifiad, a dylai pob un lenwi ffurflen ar gyfer ei gyfeiriad arferol yn ystod y tymor hyd yn oed os nad oedd yno ar ddiwrnod y cyfrifiad. Os yw'n byw gartref ar hyn o bryd, bydd angen ei gynnwys yn y cyfrifiad ar gyfer y cartref hwnnw hefyd. Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol ac nad ydych chi yng Nghymru na Lloegr ar hyn o bryd, ond y byddech chi fel arfer, rydym ni hefyd am eich cyfrif chi. Gall eich prifysgol neu goleg ddweud wrthych chi sut i gael ffurflen y cyfrifiad. Neu ewch i cyfrifiad.gov.uk a gofynnwch am god mynediad.
Rydych chi ond yn cyfrif eich hun yn y tŷ lle roeddech chi ar Ddiwrnod y Cyfrifiad
Mae angen i bawb lenwi ffurflen ar gyfer eu cyfeiriad arferol nhw, hyd yn oed os nad oedden nhw yno ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, oherwydd bydd angen gwasanaethau lleol yn y ddau gyfeiriad o hyd. Os yw'r pandemig wedi golygu eich bod chi yn byw rywle arall, er enghraifft os gwnaethoch chi adael y ddinas a mynd i aros mewn cartref gwyliau neu yng nghefn gwlad cyn y cyfyngiadau symud, neu nad ydych chi wedi bod yn y fflat rydych chi'n byw ynddo yn y ddinas fel arfer yn ystod yr wythnos, mae angen i chi lenwi ffurflen y cyfrifiad ar gyfer y ddau gyfeiriad o hyd, Ewch i cyfrifiad.gov.uk i gael cod mynediad ar gyfer eich ail gartref.
Nid oes angen i chi lenwi ffurflen ar gyfer tŷ gwag
Mae'n bwysig ein bod ni'n cael ffurflen y cyfrifiad ar gyfer pob tŷ, hyd yn oed os nad oes neb yn byw yno fel arfer – er enghraifft cartrefi gwyliau a charafannau – oherwydd mae'n gyfrifiad sy'n ymwneud â thai yn ogystal â'r boblogaeth. Mae angen i gynghorau lleol wybod am yr holl dai yn eu hardal er mwyn iddynt allu cynllunio gwasanaethau a gweithio allan faint o dai newydd sydd angen eu hadeiladu. Ewch i cyfrifiad.gov.uk i gael cod mynediad os ydych chi'n berchen ar dŷ, fflat neu garafán sy'n wag.
Dwi ddim yn ddinesydd Prydeinig, felly does dim angen i mi gael fy nghyfrif
Mae'n rhaid i bawb sy'n aros yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth, gael eu cyfrif.
Bydd fy ngwybodaeth i yn cael ei rhannu
Na fydd. Caiff eich data personol chi o'r cyfrifiad eu cadw dan glo am 100 mlynedd. Ni all neb eich adnabod chi na'ch ymatebion o'r ystadegau rydym ni'n eu cyhoeddi. Yn wir, ni all eich gwybodaeth bersonol chi gael ei gweld gan unrhyw un sy'n gwneud penderfyniadau amdanoch chi. Ni all gael ei defnyddio gan y llywodraeth i ddylanwadu ar hawliadau budd-daliadau, cais i breswylio, statws mewnfudo na threthi, na gan landlordiaid nac unrhyw sefydliad preifat arall.
Mae'r cyfrifiad yn wastraff amser. Dyw e ddim yn fy helpu i.
Mae'r cyfrifiad o fudd i ni gyd oherwydd mae'n sail i'r holl wasanaethau mae pob un ohonom ni yn dibynnu arnyn nhw. Mae'n darparu gwybodaeth am ein trefniadau byw, iechyd, addysg a swyddi, a bydd y wybodaeth ohono yn helpu i lywio polisïau lleol a chenedlaethol am flynyddoedd i ddod. O leoedd ysgol i gynllunio lonydd beic, mae gwybodaeth y cyfrifiad hyd yn oed yn cael ei defnyddio i benderfynu ble i adeiladu archfarchnadoedd newydd, pa fwyd i'w roi ar silffoedd a faint o fannau parcio i'w darparu ar gyfer rhieni a phlant bach.
Os na allwch chi fynd ar lein, allwch chi ddim gwneud y cyfrifiad
Dyma'r tro cyntaf i ni ofyn i bawb ymateb ar lein os gallant ac mae'r ymateb wedi bod yn wych. Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd heb y sgiliau na’r hyder i’w wneud ar-lein, mae digon o help ar gael. Mae gennym ganolfannau cymorth y cyfrifiad ar hyd a lled Cymru a Lloegr, sy’n cynnig cymorth dros y ffôn ac wyneb yn wyneb, ewch i https://cyfrifiad.gov.uk/chwilio-am-ganolfan-cymorth-y-cyfrifiad (opens in a new tab) i ddod o hyd i ganolfan yn agos atoch chi. Gallwch hefyd ffonio ein canolfan gyswllt. Ffoniwch 0800 169 2021 yng Nghymru a 0800 141 2021 yn Lloegr i gael help neu i ofyn am holiadur bapur.
Bydd swyddogion y cyfrifiad yn gofyn am wybodaeth bersonol
Dim ond os gofynnir am god ar-lein newydd y bydd swyddog maes yn gofyn am enw a rhif ffôn deiliad cartref. Bydd hefyd yn gofyn am enw'r deiliad cartref os bydd yn gofyn am holiadur papur.
Fodd bynnag, ni fydd byth yn gofyn am gael gweld dogfennau personol fel pasbortau na thystysgrifau geni. Ni fydd swyddogion maes byth yn gofyn am daliad ac ni fyddan nhw byth yn mynd i mewn i'ch cartref.
Bydd swyddogion y cyfrifiad yn rhoi dirwy i chi ar garreg y drws
Peidiwch â chael eich twyllo. Ni fydd swyddogion maes y cyfrifiad byth yn gofyn am daliad ar garreg y drws. Rôl swyddogion maes yw helpu ac annog y rhai nad ydynt wedi llenwi holiadur y cyfrifiad ar lein nac ar bapur eto ar ôl Diwrnod y Cyfrifiad, a'u cyfeirio at y gwasanaethau cymorth sydd eu hangen arnynt. Byddant yn gweithredu yn yr un ffordd â gweithwyr post neu gwmnïau danfon bwyd. Bydd ganddynt fathodyn adnabod hefyd i ddangos eu bod yn gweithio ar y cyfrifiad.
Byddwn ni'n parhau i helpu pobl i ymateb i'r cyfrifiad ond os bydd cartref yn gwrthod llenwi holiadur, byddwn ni'n cynnal cyfweliad dan rybuddiad, a all arwain at wŷs llys, dirwy o hyd at £1,000 a chofnod troseddol.
Mae'n rhaid i mi dalu dirwy ar-lein am wneud camgymeriad ar fy nghyfrifiad
Peidiwch â chael eich twyllo. I gael dirwy rhaid i'ch achos fynd i'r llys am beidio â chwblhau'r cyfrifiad. Fyddwch chi byth yn cael dirwy drwy neges destun, ar y cyfryngau cymdeithasol na thrwy e-bost. Mae ein tîm Seiber Wybodaeth yn chwilio'r we am safleoedd gwe-rwydo ac yn rhoi stop arnyn nhw. Os byddwch chi'n dod ar draws gwefan sy'n edrych yn amheus neu'n cael negeseuon testun â dolenni i wefannau yn gofyn am arian mewn perthynas â'r cyfrifiad, peidiwch ag ymateb. Rhowch wybod i Ganolfan Gyswllt Cyfrifiad 2021 drwy ffonio 0800 169 2021 yng Nghymru a 0800 141 2021 yn Lloegr.