Dywedwch wrthym a ydych chi'n derbyn cwcis ons.gov.uk

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth am y ffordd rydych chi’n defnyddio cyfrifiad.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i sicrhau bod y wefan yn gweithio cystal â phosibl ac i wella ein gwasanaethau.

You have accepted all additional cookies. You have rejected all additional cookies. You can change your cookie preferences at any time.

Neidio i’r prif gynnwy

Datganiadau i'r wasg : Ymateb digidol i Gyfrifiad 2021 yn rhagori ar ddisgwyliadau

Ymatebodd 97% o gartrefi – ffigur anhygoel – ledled Cymru a Lloegr i Gyfrifiad 2021 i wneud yn siŵr eu bod yn cyfrif ar gyfer gwasanaethau lleol - a gwnaeth bron 90% ohonynt hyn ar lein.

Dengys y canfyddiadau cychwynnol a gyhoeddir heddiw fod yr ymateb ar-lein i'r cyfrifiad digidol yn gyntaf cyntaf wedi rhagori ar ddisgwyliadau; cafodd mwy na 22 miliwn o ymatebion eu cyflwyno drwy'r holiadur gwe.

Roedd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi gosod targed cyn y cyfrifiad o 75% o leiaf yn cwblhau'r holiadur ar lein. Fodd bynnag, roedd y ffigur yn uwch na hynny, wrth i 88.9% o gartrefi ymateb i'r cyfrifiad ar ddyfais ddigidol.

Ffôn symudol oedd y ffordd fwyaf cyffredin o gwblhau'r holiadur electronig; dewisodd 56.4% o gartrefi wneud hynny fel hyn. Defnyddiodd bron 35% gyfrifiadur bwrdd gwaith, a defnyddiodd 9% lechen.

Ar gyfartaledd, cymerodd 23 munud i gartref gwblhau'r holiadur ar-lein, a oedd yn unol â'n disgwyliadau.

“Cawsom ymateb gwych i Gyfrifiad 2021 wrth i fwy na 97% o gartrefi gwblhau eu cyfrifiad er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu cynrychioli ar gyfer gwasanaethau lleol fel lleoedd mewn ysgolion, gwelyau mewn ysbytai a gwasanaethau brys, ac roedd yn wych gweld y mwyafrif llethol yn defnyddio ein gwasanaethau digidol,” dywedodd Pete Benton, Cyfarwyddwr Cyfrifiad 2021.

“Bydd canlyniadau Cyfrifiad 2021 yn hanfodol i'n helpu i ddeall effaith pandemig y coronafeirws ar gymunedau gwahanol. Yn ogystal â darparu gwybodaeth am ein poblogaeth a'n hiechyd, bydd Cyfrifiad 2021 hefyd yn taflu goleuni ar y newidiadau cymdeithasol ac economaidd i'n bywydau.

“Tra bo data o Gyfrifiad 2011 eisoes wedi bod yn hanfodol i'n helpu i ddeall marwolaethau ar gyfer gwahanol grwpiau yn ystod y pandemig, bydd data newydd sbon o Gyfrifiad 2021 yn ein galluogi i ddiweddaru ein gwaith dadansoddi ac, ochr yn ochr â ffynonellau data gweinyddol newydd, cawn y data gorau erioed ar ein poblogaeth.”

Y 5 uchaf o blith awdurdodau lleol yn Lloegr yn ôl cyfran ar-lein ar gyfer ardaloedd ar lein yn gyntaf:

  • Tower Hamlets 97.3%
  • Newham 97.0%
  • Dinas Llundain 96.7%
  • Slough 96.7%
  • Hounslow 96.6%

Y 5 uchaf o blith awdurdodau lleol yng Nghymru yn ôl cyfran ar-lein ar gyfer ardaloedd ar lein yn gyntaf:

  • Caerdydd 95.2%
  • Casnewydd 94.3%
  • Bro Morgannwg 94.2%
  • Rhondda Cynon Taf 94.0%
  • Sir y Fflint 93.5%

Mae'r ymgynghoriad ar allbynnau Cyfrifiad 2021 (opens in a new tab)  yn cau am hanner nos yfory (5 Hydref), felly os hoffai pobl ddweud eu dweud ar y data o'r cyfrifiad a gaiff eu cyhoeddi, dylent ymateb nawr.

Mae proses sicrhau ansawdd drylwyr yn cael ei chynnal bellach er mwyn sicrhau bod y canlyniadau gorau o'r cyfrifiad ar gael i bawb.

Yna rhyddheir mwy o ddata a gwaith dadansoddi fesul cam drwy gydol 2022 a 2023.

I gael rhagor o wybodaeth am Gyfrifiad ar-lein 2021 a sut y gwnaeth SYG alluogi pobl i ymateb yn ddigidol neu ar bapur, darllenwch yr adroddiadau llawn yma (opens in a new tab) .

Nodiadau i olygyddion

  • Y cyfrifiad yw'r ymarfer ystadegol mwyaf y mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn ei gynnal, gan gynhyrchu ystadegau sy'n llywio pob agwedd ar fywyd cyhoeddus ac yn ategu polisi cymdeithasol ac economaidd. Mae'n darparu toreth o wybodaeth ar lefel ddaearyddol fach er mwyn llywio gwaith cynllunio a phenderfyniadau lleol. Felly, mae'n hanfodol bod pawb yn cymryd rhan ac yn cael eu cyfrif a bod yr ystadegau sy'n cael eu cynhyrchu yn gywir ac yn diwallu anghenion defnyddwyr.
  • Yn 2014, argymhellodd (117.8 KB, PDF) (opens in a new tab)  yr Ystadegydd Gwladol y dylai Cyfrifiad 2021 fod yn gyfrifiad ar-lein yn bennaf, ac y dylid sicrhau bod cymorth ar gael i'r rhai na allant gwblhau'r cyfrifiad ar lein. Ystyriwyd hyn gennym wrth fynd ati i baratoi ac mae dwy erthygl a gyhoeddir heddiw yn disgrifio rhannau allweddol o'r gwaith hwnnw.

I drefnu cyfweliadau cysylltwch â swyddfa’r wasg ar 0845 604 1858 neu 0203 684 5070 neu ebostiwch Media.Relations@ons.gov.uk (opens in a new tab)