Grwpiau cymunedol ac elusennau : Beth y gallwch chi ei wneud adeg Diwrnod y Cyfrifiad
Adeg Diwrnod y Cyfrifiad, sef dydd Sul 21 Mawrth 2021, y brif flaenoriaeth yw helpu pobl i lenwi ffurflen y cyfrifiad. Gallwch chi wneud hynny mewn nifer o ffyrdd. Gallwch chi wneud y canlynol:
- dweud wrth bobl pryd mae'r cyfrifiad yn digwydd
- helpu ffrindiau, teulu a chymdogion i gael y cymorth sydd ei angen arnynt i lenwi ffurflen y cyfrifiad
- helpu gofalwyr i gael cyngor a chymorth er mwyn helpu eraill
- helpu rhywun i fynd ar lein, fel y gall lenwi'r cyfrifiad ar lein
- cyfeirio pobl y mae angen help arnynt i fynd ar lein at un o Ganolfannau Cymorth y Cyfrifiad
- trefnu help i bobl yn eich cymuned nad Cymraeg na Saesneg yw eu hiaith gyntaf
- cyfeirio pobl at yr help mewn ieithoedd gwahanol y byddwn ni'n ei ddarparu
- cyfeirio pobl, gan gynnwys gofalwyr a gweithwyr cymorth, at help ac arweiniad mewn nifer o fformatau hygyrch os bydd eu hangen arnynt
- trefnu gweithgareddau cwblhau'r cyfrifiad