Ymunwch â ni fel un o bartneriaid corfforaethol y cyfrifiad
Os ydych chi'n sefydliad neu'n frand cenedlaethol, gallwch chi gymryd rhan yng Nghyfrifiad 2021. Yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol, rydym ni'n awyddus i fusnesau fel eich un chi i atgoffa eu cwsmeriaid, eu haelodau neu eu cydweithwyr am bwysigrwydd llenwi ffurflen y cyfrifiad. Byddem yn croesawu eich cefnogaeth.
Pam y dylech chi gymryd rhan
Caiff y cyfrifiad ei gynnal bob 10 mlynedd ac mae'n rhoi darlun i ni o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr. Mae'r wybodaeth y mae'r cyfrifiad yn ei chasglu yn llywio penderfyniadau ar bethau sy'n effeithio arnoch chi, eich cwsmeriaid a'ch cyflogwyr, fel gwasanaethau trafnidiaeth, addysg a gofal iechyd.
Drwy gymryd rhan ac annog pobl eraill i baratoi ar gyfer Diwrnod y Cyfrifiad ddydd Sul 21 Mawrth 2021, byddwch yn helpu i wneud yn siŵr bod y gwasanaethau sydd eu hangen ar gymunedau lleol yn cael eu rhannu'n deg rhyngddynt.
Mae nifer o sefydliadau'n gwneud penderfyniadau am eu dyfodol yn seiliedig ar wybodaeth o'r cyfrifiad hefyd. Darllenwch am y ffordd y mae rhai wedi gwneud hynny ar ein tudalen straeon y cyfrifiad.
Mae cymryd rhan hefyd yn golygu cysylltu ag un o'r arolygon mwyaf a phwysicaf sy'n bodoli a'r ymgyrch gyhoeddus proffil uchel gysylltiedig.
Adnoddau y gallwch chi eu defnyddio i hyrwyddo'r cyfrifiad
Fel un o bartneriaid corfforaethol y cyfrifiad, bydd adnoddau digidol am ddim ar gael i chi, gan gynnwys y canlynol:
- logos
- copi
- posteri
- taflenni
- astudiaethau achos lleol
- negeseuon ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol
Bydd yr adnoddau hyn yn ei gwneud hi'n hawdd i chi atgoffa pobl i gwblhau eu cyfrifiad. Gallwch eu harddangos ar eich safle neu eu cyhoeddi ar eich sianeli cyfathrebu eich hun, fel eich cylchlythyr i gwsmeriaid neu ar eich gwefan.
Rydym ni a'n hasiantaeth, M&C Saatchi Partnerships, yn awyddus i gydweithio â chi.
Cysylltwch â ni i weld sut y gallwn ni eich helpu chi i gymryd rhan a pha adnoddau sydd eu hangen arnoch.