Partneriaid cymunedol
Diolch i’ch cefnogaeth, cawsom ymateb gwych i Gyfrifiad 2021. Roedd gweithio gyda phartneriaid cymunedol yn hanfodol i helpu pawb i gymryd rhan.
Yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rydym wedi troi miliynau o ffurflenni cyfrifiad yn ystadegau y gallwn oll eu defnyddio.
Mae canlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021 wedi’u cyhoeddi. Maent yn dangos gwybodaeth am nifer y cartrefi a phoblogaeth yng Nghymru a Lloegr, i gyd ac ar lefel awdurdod lleol.
Yna rydym yn bwriadu cyhoeddi holl brif ddata Cyfrifiad 2021 o fewn dwy flynedd i’r cyfrifiad. Bydd datganiadau yn y dyfodol yn cynnwys gwybodaeth am bynciau fel grŵp ethnig, crefydd, iechyd, tai, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd ac addysg.
Gweithio gyda’n gilydd i hyrwyddo canlyniadau Cyfrifiad 2021
Fel y gwnaethom yn ystod y cyfrifiad, hoffem weithio gyda phartneriaid cymunedol i godi ymwybyddiaeth o ganlyniadau Cyfrifiad 2021 a helpu pobl i’w defnyddio.
Mae deunyddiau ac adnoddau ar gael i’ch helpu i ddeall a chodi ymwybyddiaeth o ganlyniadau Cyfrifiad 2021.
Lawrlwythwch adnoddau i gefnogi canlyniadau’r cyfrifiad.
Cadw mewn cysylltiad
Os hoffech gysylltu â ni am ganlyniadau’r cyfrifiad neu am weithgareddau ymgysylltu â’r gymuned, e-bostiwch y tîm Allgymorth ac Ymgysylltu.
I fod y cyntaf i wybod am gyhoeddiadau a datganiadau cyfrifiad sydd ar ddod gan y SYG, cofrestrwch i gael ein diweddariadau e-bost (Saesneg yn unig).