Rhaglen Adnoddau Addysg Gynradd y Cyfrifiad : Gadewch i ni Gyfrif! 2022
Ar ôl llwyddiant hynod yn 2021, mae ysgolion cynradd ledled Cymru a Lloegr wedi cofrestru ar gyfer Gadewch i ni Gyfrif! 2022.
Dyfarnwyd gwobr Rhaglen Addysg STEM y Flwyddyn i Gadewch i ni Gyfrif! yn 2021. Yn 2022, gallwch chi ddefnyddio adnoddau newydd, hyblyg, ac sy'n arbed amser i chi ar gyfer addysgu yn yr ystafell ddosbarth neu ddysgu o bell.
Mae'r adnoddau hyn yn dal i fod ar gael am gyfnod cyfyngedig.
Ar 28 Mehefin, gwnaeth enillwyr y gystadleuaeth Gadewch i ni Gyfrif! ein helpu i ddatgelu ffigur poblogaeth Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru.
Dysgwch sut mae Enillwyr cystadleuaeth Gadewch i ni Gyfrif! yn datgelu ffigur poblogaeth Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru yn ein blog.