Straeon y cyfrifiad
Mae'r wybodaeth rydym yn ei chasglu o'r cyfrifiad yn helpu amrywiaeth o sefydliadau i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Er enghraifft, mae llywodraeth leol yn defnyddio'r wybodaeth er mwyn helpu i gynllunio gwasanaethau, megis ysgolion, ysbytai a chasglu sbwriel, yn eich ardal. Mae busnesau'n ei defnyddio i benderfynu ble i leoli eu hunain, sy'n creu cyfleoedd gwaith. Mae elusennau hefyd yn defnyddio gwybodaeth o'r cyfrifiad er mwyn helpu i gael y cyllid sydd ei angen arnynt.
Darllenwch rai o'n hastudiaethau achos isod i weld sut mae sefydliadau gwahanol yn defnyddio gwybodaeth o'r cyfrifiad i gynllunio gwasanaethau.
Cymunedau iachach
Mae gwybodaeth o'r cyfrifiad yn helpu'r MHF i gefnogi pobl sy'n wynebu risg o salwch meddwl
Diffodd tân â ffeithiau
Defnyddiodd Brigâd Dân Llundain ddata'r cyfrifiad i nodi ac atal tanau mewn ardaloedd risg uchel
Penderfyniadau ynghylch ariannu
Mae Data Cymru yn defnyddio gwybodaeth o'r cyfrifiad i helpu llywodraeth leol i ddeall ei chymunedau
Helpu'r rhai sydd mewn angen
Mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn defnyddio gwybodaeth o'r cyfrifiad i gefnogi pobl mewn angen
Llesiant yn Eryri
Mae gwybodaeth o'r cyfrifiad yn helpu Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i ddysgu am y boblogaeth leol
Cefnogi cymunedau Iddewig
Mae gwybodaeth o'r cyfrifiad yn helpu'r JPR i greu darlun o gymuned Iddewig y Deyrnas Unedig