Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Creu darlun o'r boblogaeth leol
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (opens in a new tab) yn gweithio i warchod y parc cenedlaethol fel y gallwn ni, a chenedlaethau'r dyfodol, ei fwynhau.
Mae gwybodaeth o'r cyfrifiad yn chwarae rôl bwysig yn y gwaith hwn. Mae'r Awdurdod yn defnyddio'r cyfrifiad er mwyn helpu i greu darlun o'r boblogaeth leol. Mae ganddo ddiddordeb ym mhopeth o nifer y siaradwyr Cymraeg sy'n byw yn yr ardal, i iechyd a llesiant y boblogaeth.
Mae gwybodaeth o'r cyfrifiad yn galluogi'r Awdurdod i nodi materion sy'n effeithio ar yr ardal. Yna gall wneud newidiadau i Gynllun y Parc Cenedlaethol er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn. Mae hyn yn cynnwys pethau fel llunio mwy o wybodaeth am y parc cenedlaethol a threfnu prosiectau sy'n ymchwilio i ddosbarthiad y boblogaeth yn y parc.
Drwy ddefnyddio gwybodaeth o'r cyfrifiad, mae'r Awdurdod yn gwneud yn siŵr bod y parc yn chwarae rôl bwysig o ran llesiant y cymunedau o fewn ei ffiniau, yn gymdeithasol ac yn economaidd.
Dywedodd Rheolwr Partneriaethau'r Awdurdod, Angela Jones: “Mae data o'r cyfrifiad yn hanfodol er mwyn ein helpu ni i wneud yn siŵr bod Parc Cenedlaethol Eryri cystal â phosibl i'r rhai sy'n byw ynddo ac o'i gwmpas. Drwy ddefnyddio data o'r cyfrifiad, mae'r Awdurdod yn gwneud yn siŵr bod y parc yn chwarae rhan bwysig o ran llesiant cymdeithasol ac economaidd ei gymunedau lleol nawr – ac yn y dyfodol.”