Dywedwch wrthym a ydych chi'n derbyn cwcis ons.gov.uk

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth am y ffordd rydych chi’n defnyddio cyfrifiad.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i sicrhau bod y wefan yn gweithio cystal â phosibl ac i wella ein gwasanaethau.

You have accepted all additional cookies. You have rejected all additional cookies. You can change your cookie preferences at any time.

Neidio i’r prif gynnwy

Brigâd Dân Llundain

Brigâd Dân Llundain yw'r gwasanaeth tân ac achub ar gyfer Llundain. Wrth iddi gynllunio ei gwasanaethau, mae Brigâd Dân Llundain yn asesu risgiau ar draws Llundain. Mae Brigâd Dân Llundain yn defnyddio data o'r cyfrifiad – a'i gwybodaeth ei hun am gymunedau ym mhob rhan o'r brifddinas – er mwyn asesu lefel y risg ar gyfer pob ardal yn gywir. Mae adnodd cod post ar-lein (yn Saesneg) (opens in a new tab)  y gall aelodau'r cyhoedd ei ddefnyddio i chwilio am eu hardal eu hunain.

Rhan fawr o rôl Brigâd Dân Llundain yw ceisio atal tanau rhag dechrau yn y lle cyntaf ac, i wneud hyn, mae'n bwysig edrych ar ba ardaloedd a chymunedau sy'n wynebu'r risg fwyaf o danau. Gyda thros 3.2 miliwn o gartrefi yn Llundain, mae hon yn dasg anodd.

Drwy edrych ar ddata o'r cyfrifiad am oedran er enghraifft, gall y tîm fapio ardaloedd sydd â mwy o bobl hŷn yn byw ar eu pen eu hunain a all wynebu mwy o risg o gael eu hanafu pe bai tân. Mae ffactorau eraill fel gorlenwi neu ddiffyg gwres canolog yn gallu gwneud pobl yn fwy agored i niwed hefyd. Mae'r Frigâd yn gweithio gyda chynghorau a chymunedau lleol er mwyn helpu i leihau risgiau, addysgu preswylwyr ar ddiogelwch tân a chynnal ymweliadau diogelwch tân â chartrefi. Mae hyn yn helpu i leihau nifer y tanau a'r bobl sy'n cael eu hanafu ganddynt yn Llundain. Heb ddata'r cyfrifiad, byddai'n anoddach i'r Frigâd fapio'r ardaloedd hyn sydd mewn perygl. Mae wir yn achub bywydau.