Data Cymru
Deall cymunedau lleol yng Nghymru
Mae Data Cymru (opens in a new tab) yn helpu Llywodraeth Cymru i gael gafael ar wybodaeth a'i defnyddio. Y cyfrifiad yw un o'r prif ffynonellau y mae'n gweithio gyda nhw er mwyn helpu llywodraeth leol i ddeall ei chymunedau a chynllunio gwasanaethau.
Er enghraifft, mae Data Cymru yn defnyddio gwybodaeth o'r cyfrifiad i ddysgu am y pwysau ar ysgolion, ffyrdd a thrafnidiaeth. Mae hyn yn helpu gyda phenderfyniadau ynglŷn â lle mae angen gwneud newidiadau. Mae hefyd yn defnyddio gwybodaeth o'r cyfrifiad i gymharu grwpiau gwahanol o'r boblogaeth sy'n byw yng Nghymru a deall mwy amdanyn nhw a'u hanghenion.
Yn aml, y cyfrifiad yw'r unig ffynhonnell wybodaeth ar lefel leol, gymunedol. Mae'n helpu llywodraeth leol i ddeall sut mae Cymru a'i chymunedau yn newid dros amser. Mae hyn yn bwysig ar gyfer cynllunio, nawr ac yn y dyfodol. Mae gwybodaeth o'r cyfrifiad hefyd yn helpu i lywio penderfyniadau ynghylch ariannu awdurdodau lleol, gwasanaethau iechyd, yr heddlu a gwasanaethau cyhoeddus eraill.
Dywedodd Andrew Stephens, Cyfarwyddwr Gweithredol Data Cymru: “Yn aml, gwybodaeth o'r cyfrifiad yw'r wybodaeth bwysicaf a mwyaf cadarn sydd gennym ni ar lefel leol, gymunedol. Mae'n hanfodol er mwyn ein helpu ni i ddeall sut mae Cymru, a'i chymunedau, yn newid dros amser."