Gwasanaethau Iechyd Meddwl Fietnamaidd
Mae Gwasanaethau Iechyd Meddwl Fietnamaidd yn defnyddio gwybodaeth o Gyfrifiad 2011 i gefnogi ceisiadau am gyllid.
Mae Dr Jack Shieh, OBE, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Fietnamaidd, yn esbonio bod gwybodaeth o'r cyfrifiad yn bwysig iawn i'r gymuned Fietnamaidd. Mae'n creu darlun cywir o ble mae pobl Fietnamaidd yn byw yng Nghymru a Lloegr ac yn llywio ceisiadau sefydliadau cymunedol am gyllid. Mae hyn wedyn yn sicrhau bod y gymuned Fietnamaidd yn cael y cymorth sydd ei angen arni.