Coleg Prifysgol Llundain
Defnyddiodd ymchwilwyr Coleg Prifysgol Llundain wybodaeth Cyfrifiad 2011 i astudio sut mae bod mewn gofal yn effeithio ar iechyd meddwl.
Siaradon ni ag Dr Emily Murray, Uwch-ymchwilydd, Coleg Prifysgol Llundain (UCL) a'r Athro Amanda Sacker, Iechyd y Cyhoedd, UCL.
Mae gwaith Dr Emily Murray a’r Athro Amanda Sacker yn canolbwyntio ar wella iechyd y boblogaeth gyfan a lleihau anghydraddoldebau. Mae gwybodaeth o'r cyfrifiad yn eu helpu i nodi ac astudio pobl sydd wedi bod mewn gofal ac effaith hyn ar eu hiechyd meddwl ar ôl iddynt adael gofal.
Mae'r ddwy yn siarad am y ffordd y maent yn cadw'r wybodaeth hon yn ddiogel a'r protocolau llym y mae'n rhaid iddynt eu dilyn er mwyn defnyddio gwybodaeth o'r cyfrifiad.
Trawsgrifiad o'r fideo "Astudiaeth Achos y Cyfrifiad: Coleg Prifysgol Llundain" (yn Saesneg)