Dywedwch wrthym a ydych chi'n derbyn cwcis ons.gov.uk

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth am y ffordd rydych chi’n defnyddio cyfrifiad.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i sicrhau bod y wefan yn gweithio cystal â phosibl ac i wella ein gwasanaethau.

You have accepted all additional cookies. You have rejected all additional cookies. You can change your cookie preferences at any time.

Neidio i’r prif gynnwy

Sefydliad Iechyd Meddwl

Cefnogi iechyd meddwl cymunedau

Mae elusennau'n defnyddio gwybodaeth y cyfrifiad er mwyn helpu i gynllunio'r gwasanaethau maen nhw'n eu darparu i'r rhai sydd eu hangen fwyaf. Er enghraifft, mae'r Sefydliad Iechyd Meddwl (opens in a new tab)  yn ei defnyddio i ddod o hyd i'r rhai sy'n wynebu mwy o risg o salwch meddwl a darparu'r cymorth y mae ei angen arnynt.

Yn anffodus, mae'r risg o ddatblygu salwch meddwl yn uwch mewn rhai rhannau o Gymru a Lloegr nag eraill. Gall ffactorau fel oedran, rhywedd, ethnigrwydd a lleoliad i gyd gael effaith.

Defnyddiodd y Sefydliad Iechyd Meddwl wybodaeth o Gyfrifiad 2011 i lunio map gwres o fwrdeistrefi Llundain sydd â'r risg fwyaf. Roedd saith o fwrdeistrefi Dwyrain Llundain yn "goch", gyda'r risgiau mwyaf.

Ymatebodd y Sefydliad Iechyd Meddwl drwy sefydlu cyfres o Sgyrsiau Cymunedol yn yr ardaloedd hynny. Daeth y digwyddiadau hyn â phobl ynghyd o'r gymuned leol i siarad am ffyrdd o wella eu hiechyd meddwl. Cymerodd dros 1,000 o bobl ran. Nawr mae eu syniadau yn cael eu datblygu i'r cam nesaf. Yn Hackney er enghraifft, dywedodd pobl eu bod am gael mwy o ardaloedd cymunedol diogel ac am ddim lle gallent gwrdd â ffrindiau a chymdogion. O ganlyniad, cafodd ardal agored gymunedol ei hychwanegu at gynlluniau'r cyngor ar gyfer canolfan hamdden newydd.

Diolch i waith y cyfrifiad, nododd y Sefydliad Iechyd Meddwl gymuned a oedd yn wynebu risg, helpodd bobl leol i fynegi eu barn ac aeth ati i wella eu hamgylchedd lleol.