Cymunedau iachach
Cefnogi iechyd meddwl cymunedauMae elusennau'n defnyddio gwybodaeth y cyfrifiad er mwyn helpu i gynllunio'r gwasanaethau maen nhw'n eu darparu i'r rhai sydd eu hangen fwyaf. Er enghraifft, mae'r Sefydliad Iechyd Meddwl yn ei defnyddio i ddod o hyd i'r rhai sy'n wynebu mwy o risg o salwch meddwl a darparu'r cymorth y mae ei angen arnynt. Yn anffodus, mae'r risg o ddatblygu salwch meddwl yn uwch mewn rhai rhannau o Gymru a Lloegr nag eraill. Gall ffactorau fel oedran, rhywedd, ethnigrwydd a lleoliad i gyd gael effaith. Defnyddiodd y Sefydliad Iechyd Meddwl wybodaeth o Gyfrifiad 2011 i lunio map gwres o fwrdeistrefi Llundain sydd â'r risg fwyaf. Roedd saith o fwrdeistrefi Dwyrain Llundain yn "goch", gyda'r risgiau mwyaf. Ymatebodd y Sefydliad Iechyd Meddwl drwy sefydlu cyfres o Sgyrsiau Cymunedol yn yr ardaloedd hynny. Daeth y digwyddiadau hyn â phobl ynghyd o'r gymuned leol i siarad am ffyrdd o wella eu hiechyd meddwl. Cymerodd dros 1,000 o bobl ran. Nawr mae eu syniadau yn cael eu datblygu i'r cam nesaf. Yn Hackney er enghraifft, dywedodd pobl eu bod am gael mwy o ardaloedd cymunedol diogel ac am ddim lle gallent gwrdd â ffrindiau a chymdogion. O ganlyniad, cafodd ardal agored gymunedol ei hychwanegu at gynlluniau'r cyngor ar gyfer canolfan hamdden newydd. Diolch i waith y cyfrifiad, nododd y Sefydliad Iechyd Meddwl gymuned a oedd yn wynebu risg, helpodd bobl leol i fynegi eu barn ac aeth ati i wella eu hamgylchedd lleol. |