Sefydliad Ymchwil Polisi Iddewig
Taflu goleuni ar fywyd Iddewig modern
Mae'r Sefydliad Ymchwil Polisi Iddewig (yn Saesneg) (opens in a new tab) yn defnyddio gwybodaeth o'r cyfrifiad i greu darlun o gymuned Iddewig y Deyrnas Unedig. Gall y darlun hwnnw gael effaith fawr ar y cymorth a'r gwasanaethau y mae'r gymuned yn eu cael.
Mae'r Sefydliad Ymchwil Polisi Iddewig yn taflu goleuni ar gymunedau Iddewig modern yn y Deyrnas Unedig a ledled Ewrop. Y nod yw dysgu sut mae cymunedau Iddewig yn teimlo a'r hyn y maent yn ei feddwl ac yn ei wneud, er mwyn helpu sefydliadau i'w cefnogi.
Mae'r Sefydliad Ymchwil Polisi Iddewig yn defnyddio gwybodaeth o'r cyfrifiad i ddysgu am fywyd Iddewig yng Nghymru a Lloegr. Mae'n edrych ar bethau fel maint y boblogaeth, ystod oedran, maint cartrefi ac iechyd. Mae'r sefydliad yn defnyddio'r wybodaeth i lunio adroddiadau sy'n helpu arweinwyr a sefydliadau cymunedol i ddeall y canlynol yn well:
- y problemau y mae pobl Iddewig yn eu hwynebu
- ble mae bywyd Iddewig yn gwella neu'n gwaethygu
- pa mor dda y mae pobl Iddewig wedi integreiddio i fywyd yng Nghymru a Lloegr
Mae adroddiadau'r Sefydliad Ymchwil Polisi Iddewig yn hynod bwysig i elusennau Iddewig. Mae gwybodaeth o'r cyfrifiad yn eu helpu i gynllunio sut i gefnogi'r rhai sydd â'r angen mwyaf. Er enghraifft, mae elusennau gofal henoed yn defnyddio'r wybodaeth i gynllunio faint o leoedd cartrefi gofal fydd eu hangen yn y dyfodol. Mae elusennau plant yn defnyddio'r wybodaeth i weld faint o blant Iddewig sy'n byw gydag anableddau dysgu mewn rhannau gwahanol o Gymru a Lloegr.
Yn fwy cyffredinol, mae gwybodaeth o'r cyfrifiad yn helpu'r Sefydliad Ymchwil Polisi Iddewig i wybod pa wasanaethau lles sydd eu hangen ar bobl Iddewig a ble. Yna bydd y sefydliad yn cymharu hyn â beth sydd ar gael ar hyn o bryd.
Bydd gwybodaeth am grefydd o Gyfrifiad 2021 yn galluogi'r Sefydliad Ymchwil Polisi Iddewig i weld tueddiadau poblogaeth Iddewig dros ddau ddegawd cyntaf yr 21ain ganrif yn fwy cywir nag erioed.
Dywedodd Dr Jonathan Boyd, Cyfarwyddwyr Gweithredol y Sefydliad Ymchwil Polisi Iddewig: “Nid yw llawer o bobl heddiw yn deall nac yn gwerthfawrogi pa mor bwysig yw'r cyfrifiad. Ond does dim sy'n debyg iddo. Mae ei fanylder anhygoel yn ein galluogi i weld a deall ffyrdd hynod unigryw'r Deyrnas Unedig. Heb os, dyma'r ymarfer ymchwil pwysicaf yn y Deyrnas Unedig.”