Trawsgrifiad o fideo Canlyniadau Cyfrifiad 2021 - Pam fod y niferoedd yn bwysig
Harry:
Cafodd y gystadleuaeth ei chreu er mwyn annog teuluoedd a ffrindiau plant ysgol gynradd fel fi i gymryd rhan yng Nghyfrifiad 2021.
Evan:
Gofynnodd cystadleuaeth Gadewch i ni Gyfrif! i blant o bob rhan o Gymru a Lloegr greu prosiect fyddai'n gallu dangos pa mor bwysig yw gwybodaeth y cyfrifiad.
Lia:
Flwyddyn yn ddiweddarach, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn paratoi i ryddhau'r set gyntaf o ganlyniadau. Maen nhw wedi dod nôl i fy ysgol i ddweud wrthon ni sut mae'r gwaith yn mynd.
Mr Aled Hughes, Athro:
Fel Ysgol Gynradd Gymraeg fe ddaru ni edrych ar faint o siaradwyr Cymraeg oedd yma yng Nghymru. Mae’r defnydd o’r Gymraeg wedi newid llawer dros y blynyddoedd. Mi ddaru hyn ddechrau llawer o sgyrsiau yn y dosbarth, o ran demograffeg yn ein cymuned ni, yn sicr o ran faint o bobl oedd yn siarad Cymraeg a sut mae newidiadau economaidd yn y gymuned wedi effeithio ar y Gymraeg.
Cerdyn Cwestiwn:
Sut deimlad oedd ennill y gystadleuaeth?
Evan:
Rili dda, ie.
Lia:
Cyffrous, rili cyffrous.
Lily Mai:
Roedd e’n deimlad anhygoel, roedden ni wedi gweithio’n galed iawn ar y prosiect ac roedd e’n ddiddorol.
Harry:
Ro’n ni ddim wedi disgwyl ennill, rili.
Cerdyn Cwestiwn:
Beth yw pwysigrwydd y cyfrifiad?
Evan:
Gweld y bobl sy’n siarad Cymraeg i weld os maen nhw’n mynd i gael eu plant nhw i fynd i ysgolion Cymraeg so maen nhw angen mwy o ysgolion Cymraeg.
Grace:
Ni eisiau gwybod faint o bobl sydd yn byw yn yr ardal oherwydd os mae plant angen meysydd chwarae neu ganolfan hamdden i nofio ac ymarfer corff.
Lia:
I pobol [sy’n] adeiladu allu gwybod os bod nhw angen mwy o ysbyty, llefydd fel parc.
Cerdyn Cwestiwn:
Pa ganran o gartrefi wedi’u meddiannu a gymerodd ran yng Nghyfrifiad 2021? Wedi’i hamgangyfrif ar adeg casglu’r data
Cyfarwyddwr Ffilm:
Pa ganran o gartrefi rydych chi’n credu gymerodd ran yng nhgyfrifiad 2021?
- 35% b) 68% c) 97%
Lily Mai:
Dwi’n meddwl 97%.
Grace:
Bydda i’n dweud 68%.
Alla:
Dwi’n meddwl 68%.
Brecon:
Dwi’n meddwl yr un canol.
Lia:
68.
Harry:
A yn rhy isel a C yn rhy uchel.
Cyfarwyddwr Ffilm:
Mae ychydig dros 97% o gartrefi [wedi cwblhau]
Evan a Brecon:
97%.
Alla:
O’n i’n anghywir.
Lia:
Mae hwnna’n lot.
Harry:
Fi’n surprised bo bobl yn actually hoffi neud e.
Lia:
Wel mae pobol yn actually neud y peth yna oherwydd maen nhw’n gwybod bod e’n bwysig.
Cyfarwyddwr Ffilm:
Llongyfarchiadau.
Lily Mai:
Diolch.
Cyfarwyddwr Ffilm:
Da iawn.
Cerdyn Cwestiwn:
Faint o bobl oedd yn siarad Cymraeg yn 2011?
Harry:
Lot.
Lia:
Ti ddim just yn gallu dweud lot.
Harry:
Ie, fi’n meddwl am y rhif.
Evan:
500,000?
Grace:
6,000?
Alla:
Achos ma fe wedi mynd lan.
Brecon:
500,186, rhywbeth fel hwnna.
Cyfarwyddwr Ffilm:
Canlyniad 2011, 562,016
Evan:
Sut o’t ti wedi cofio hwnna te?
[Mae Brecon yn codi ei ysgwyddau mewn ymateb]
Cerdyn Cwestiwn:
Beth sy’n fwyaf cyffrous i chi wrth edrych ymlaen at ganlyniadau Cyfrifiad 2021?
Harry:
Gweld faint o bobl sy ishe neud e.
Lia:
Gweld y canlyniadau a phethau fel hwnna.
Alla:
Dwi’n gyffrous i weld faint o bobl sy’n mynd i, wel, sydd wedi dysgu Cymraeg a nawr sydd yn siarad Cymraeg.