Trawsgrifiad o fideo Creu Cyfrifiad 2021, o'r broses gasglu i'r canlyniadau
Heledd Jones, Dadansoddydd Cynhyrchu Ystadegau:
Mae'r cyfrifiad yn arolwg sy'n digwydd bob deg mlynedd. Ni, yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy’n cynnal y cyfrifiad, a’r hyn mae’n ei wneud, i bob pwrpas, yw rhoi darlun clir iawn i ni o gymdeithas ledled Cymru a Lloegr, a sut mae’n newid dros amser.
Dr Tim Gibbs, Pennaeth Tîm Dadansoddi Gwasanaethau Cyhoeddus:
Mae’r cyfrifiad yn hanfodol ar gyfer cynllunio ein holl wasanaethau lleol, y lleoedd ysgol, neu ysbytai neu hyd yn oed pa mor llydan y mae angen i’n ffyrdd fod. Maent i gyd yn dibynnu ar y nifer a’r mathau o bobl mewn ardaloedd gwahanol.
Sian-Elin Wyatt, Pennaeth Cydlynu Datblygiad:
Mae’r ystadegau a gynhyrchwn o’r cyfrifiad i gyd yn ymwneud â budd y cyhoedd. Ac maent o fudd i bawb. Felly rydym yn defnyddio’r cyfrifiad yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ac hefyd ar draws y Llywodraeth, i allu gwneud y penderfyniadau am ddarparu gwasanaethau i bobl. Mae safon yr ystadegau hynny yn bwysig i ddiogelu safon y mathau o benderfyniadau a wnawn.
Shamela Pepper-Grainger, Swyddog Ymchwil:
Wel mae'r cyfrifiad wedi bod yn rhedeg ers dros 200 mlynedd oherwydd lansiwyd y cyntaf yn 1801 ac rydym yn cael cofnod o’r boblogaeth, y bobl sy'n byw yma, eu dyddiadau geni er mwyn deall y ddemograffeg.
Heledd Jones, Dadansoddydd Cynhyrchu Ystadegau:
Mae’r cwestiynau’n newid dros amser a, wyddoch chi, yn ôl ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf roeddem yn holi am doiledau y tu allan a sinciau cegin, y tro hwn am y tro cyntaf, rydym wedi gofyn cwestiynau am gyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, ac a yw pobl wedi gwasanaethu erioed yn y lluoedd arfog a’i peidio, a hynny er mwyn i ni wir allu deall anghenion y bobl hynny a’u profiadau bywyd.
Dr Tim Gibbs, Pennaeth Tîm Dadansoddi Gwasanaethau Cyhoeddus:
Cawsom gyfrifiad llwyddiannus iawn eleni. Cawsom gyfradd gwblhau o 97% sy’n llawer, llawer uwch na’r hyn a gawsom yn 2011 ac mae’n rhoi swm enfawr o ddata i ni eu prosesu.
Heledd Jones, Dadansoddydd Cynhyrchu Ystadegau:
Felly rwy'n meddwl ein bod wedi cael cyfradd ddychwelyd uchel iawn oherwydd ein bod wedi gallu cysylltu â phobl ac esbonio i bobl pam ei fod yn bwysig ac yna, yn bwysig iawn, ein bod yn ei gwneud hi mor hawdd â phosibl iddynt ymateb. Felly oedd, roedd ar-lein, ond os oedd angen cymorth arnoch i gwblhau'r cyfrifiad roedd yna lawer o wahanol ffyrdd o wneud hynny.
Shamela Pepper-Grainger, Swyddog Ymchwil:
Bydd canlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021 ar gael ddechrau’r haf ac yna bydd cyfres reolaidd o fwy a mwy o wybodaeth yn dod allan yn dilyn hynny.
Heledd Jones, Dadansoddydd Cynhyrchu Ystadegau:
Felly byddwch chi'n gallu rhyngweithio â'r data mewn nifer o ffyrdd, bydd gennym ni gynnwys/erthyglau digidol y gallwch ryngweithio â nhw. Bydd gennym ni gemau rhyngweithiol hwyliog, a bydd gennych chi hefyd setiau data hyblyg.
Dr Tim Gibbs, Pennaeth Tîm Dadansoddi Gwasanaethau Cyhoeddus:
Felly diolch yn fawr iawn i bawb a lenwodd eu ffurflen y cyfrifiad yn 2021. Rydym ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld y darlun gwych a chyfoethog sy’n cael ei gyfleu o Gymru a Lloegr.