Trawsgrifiad o fideo cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig crynodebau pwnc Cyfrifiad 2021
Cerdyn teitl:
Crynodebau pwnc
Cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig
Shamela Pepper-Grainger, Swyddog Ymchwil:
Am y tro cyntaf erioed, mae Cyfrifiad 2021 yn cyflwyno data cyfrifiad ar bobl sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn y gorffennol. Cyfeirir atynt fel cyn-filwyr yn aml. Gallwn nawr weld y data hyn yng nghrynodeb pwnc cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig.
Heledd Jones, Dadansoddydd Cynhyrchu Ystadegau:
Am y tro cyntaf, cafodd cwestiwn newydd ei ychwanegu i Gyfrifiad 2021 a oedd yn gofyn i bobl 16 oed a throsodd a ydynt wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn y gorffennol, naill ai yn y lluoedd arfog rheolaidd, y lluoedd arfog wrth gefn neu'r ddau.
[Animeiddiad sy'n dangos cwestiwn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig Cyfrifiad 2021, ar y sgrin]
32. Ydych chi wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig yn y gorffennol?
Aelodau sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd, ticiwch “nac ydw” yn unig.
- Ydw, wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog Rheolaidd yn y gorffennol
- Ydw, wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog Wrth Gefn yn y gorffennol
- NEU nac ydw
Dr Tim Gibbs, Pennaeth Tîm Dadansoddi Gwasanaethau Cyhoeddus:
Ychwanegwyd y cwestiwn newydd er mwyn helpu i feithrin dealltwriaeth o boblogaeth cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig ac i gefnogi Cyfamod y Lluoedd Arfog. Dyma addewid ac ymrwymiad y genedl i'n cymuned lluoedd arfog.
Cerdyn gwybodaeth:
Addewid gan y genedl.
Addewid gan y genedl yw’r Cyfamod, gan sicrhau bod y sawl sydd wedi neu sydd yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a’u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg.
Heledd Jones, Dadansoddydd Cynhyrchu Ystadegau:
Cyn-filwr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yw rhywun sydd wedi gwasanaethu am o leiaf ddiwrnod. Gall hyn fod yn y lluoedd arfog rheolaidd neu'r lluoedd arfog wrth gefn ac mae'n cynnwys rhai masnachlongwyr.
Shamela Pepper-Grainger, Swyddog Ymchwil:
Roedd y cwestiwn newydd yn canolbwyntio ar y rheini sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig, yn hytrach nag unrhyw luoedd arfog arall, gan ei bod yn debygol mai dyma yw'r boblogaeth fwyaf o gyn-filwyr sy'n byw yng Nghymru a Lloegr. Hon yw'r boblogaeth y gwyddom fwyaf amdani o ffynonellau arolygon hefyd.
Heledd Jones, Dadansoddydd Cynhyrchu Ystadegau:
Ni chafodd unrhyw un a oedd yn gwasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, naill ai yn y lluoedd rheolaidd neu wrth gefn, eu cynnwys fel cyn-filwr yn nata'r cyfrifiad.
Shamela Pepper-Grainger, Swyddog Ymchwil:
Gallwn weld, o edrych ar ganlyniadau Cyfrifiad 2021, fod 1.85 miliwn o bobl yng Nghymru a Lloegr sy'n 16 oed a throsodd wedi dweud wrthym eu bod wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn y gorffennol. Mae hynny'n cyfateb i tua 1 o bob 25 unigolyn, gan gynnwys cyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd a Rhyfel y Falklands.
Dr Tim Gibbs, Pennaeth Tîm Dadansoddi Gwasanaethau Cyhoeddus:
Roedd y rhan fwyaf o'r cyn-filwyr hyn wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog rheolaidd yn y gorffennol. Roedd tua un rhan o bump wedi gwasanaethu yn y lluoedd wrth gefn, a chyfran fach yn y lluoedd rheolaidd ac wrth gefn.
Shamela Pepper-Grainger, Swyddog Ymchwil:
Mae canlyniadau cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig hefyd yn dangos bod y gyfran uchaf o gyn-filwyr yn byw yng nghymunedau'r ardaloedd sydd â chysylltiadau milwrol cryf.
[Animeiddiad sy’n dangos ardaloedd o'r Deyrnas Unedig sydd â chyfran uchel o gyn-filwyr yn eu cymunedau, ar y sgrin]
Conwy yng Nghymru, a Gosport, North Kesteven a Swydd Richmond yn Lloegr.
Shamela Pepper-Grainger, Swyddog Ymchwil:
Roedd hyn yn cynnwys Conwy yng Nghymru, a Gosport, North Kesteven a Swydd Richmond yn Lloegr. Gallwn hefyd weld bod y rhan fwyaf o gyn-filwyr yn byw mewn cartrefi, gyda dim ond 2% yn byw mewn sefydliadau cymunedol.
Dr Tim Gibbs, Pennaeth Tîm Dadansoddi Gwasanaethau Cyhoeddus:
Yn ddiddorol, roedd gan Cymru gyfran uwch o'r boblogaeth 16 oed a throsodd a oedd yn gyn-filwyr, o'i chymharu â Lloegr.
Heledd Jones, Dadansoddydd Cynhyrchu Ystadegau:
Byddwn yn parhau i ddadansoddi'r data newydd hyn o Gyfrifiad 2021, gan gynnwys oedran a rhyw cyn-filwyr, ble maen nhw'n byw a gyda phwy, yn ogystal â gwybodaeth am eu hiechyd, cyflogaeth, addysg a gwlad enedigol. Bydd hyn yn ein galluogi i archwilio demograffeg y boblogaeth cyn-filwyr yn fanylach.
Shamela Pepper-Grainger, Swyddog Ymchwil, gyda cherdyn diwedd:
Cyfrifiad 2021.
Nid yw erioed wedi bod yn haws dysgu am eich cymuned.