Dywedwch wrthym a ydych chi'n derbyn cwcis ons.gov.uk

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth am y ffordd rydych chi’n defnyddio cyfrifiad.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i sicrhau bod y wefan yn gweithio cystal â phosibl ac i wella ein gwasanaethau.

You have accepted all additional cookies. You have rejected all additional cookies. You can change your cookie preferences at any time.

Neidio i’r prif gynnwy

Trawsgrifiad o fideo demograffeg a mudo crynodebau pwnc Cyfrifiad 2021

Cerdyn teitl:
Crynodebau pwnc
Demograffeg a mudo

Shamela Pepper-Grainger, Swyddog Ymchwil:
Yn dilyn rhyddhau canlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021, rydym nawr yn cyhoeddi rhagor o fanylion drwy gyfres o grynodebau pwnc.

Dr Tim Gibbs, Pennaeth Tîm Dadansoddi Gwasanaethau Cyhoeddus:
Mae crynodeb pwnc Demograffeg a mudo Cyfrifiad 2021 yn cynnwys y bwletin demograffeg, sy'n trafod oedran pobl, eu cartref, a'u statws priodasol neu bartneriaeth sifil.

Shamela Pepper-Grainger, Swyddog Ymchwil:
Mae hefyd yn cynnwys y bwletin mudo, sy'n sôn am nodweddion y boblogaeth a aned y tu allan i Gymru a Lloegr, a'r pasbortau ym meddiant pobl ar Ddiwrnod y Cyfrifiad 2021.

Cerdyn teitl:
Demograffeg

Heledd Jones, Dadansoddydd Cynhyrchu Ystadegau:
Demograffeg yw'r astudiaeth ystadegol o boblogaethau dynol. Mae data'r Cyfrifiad yn unigryw, am eu bod yn rhoi gwybodaeth i ni am y ffordd rydym yn byw nawr a sut mae pethau wedi newid dros amser.

Gallwn archwilio oedran y boblogaeth yng Nghymru a Lloegr, gan edrych ar y cyfartaledd oedran uchaf ac isaf, oedrannau myfyrwyr ac oedrannau pensiynwyr.

Dr Tim Gibbs, Pennaeth Tîm Dadansoddi Gwasanaethau Cyhoeddus:
Gall y wybodaeth hon wir helpu gyda gwaith cynllunio ac ariannu ein hysgolion a'n cartrefi gofal. Mae'n ddiddorol hefyd gweld sut mae eich oedran yn cymharu â phobl eraill yn eich ardal leol.

Heledd Jones, Dadansoddydd Cynhyrchu Ystadegau:
O edrych ar ganlyniadau Cyfrifiad 2021, gallwn weld cynnydd yn y cartrefi lle mai dim ond plant nad ydynt yn ddibynnol oedd yn byw gartref. Rydym wedi gweld y duedd hon yn cynyddu yn ddiweddar, efallai oherwydd newidiadau mewn amgylchiadau yn dilyn pandemig y coronafeirws. Mae'n bosibl hefyd fod mwy o bobl yn byw yn eu cartref teuluol am hirach, er mwyn arbed arian neu am na allant fforddio'u cartref eu hunain.

Dr Tim Gibbs, Pennaeth Tîm Dadansoddi Gwasanaethau Cyhoeddus:
Gallwn hefyd weld gostyngiad yn nifer y bobl a oedd naill ai'n priodi neu mewn Partneriaeth Sifil. Mae hyn yn dilyn y duedd o bobl yn priodi yn nes ymlaen mewn bywyd, neu'n penderfynu peidio â phriodi o gwbl.

Heledd Jones, Dadansoddydd Cynhyrchu Ystadegau:
Roedd hyn er gwaethaf cyflwyno priodasau o'r un rhyw a phartneriaethau sifil o'r rhyw arall yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, felly bydd yn ddiddorol gweld a fydd y tueddiadau hyn yn parhau yn y dyfodol.

Cerdyn teitl:
Mudo

Shamela Pepper-Grainger, Swyddog Ymchwil:
Trwy ddata'r cyfrifiad sy'n ymwneud â mudo rhyngwladol, gallwn weld yr effaith y gall pandemig y coronafeirws ei chael ar gynlluniau pobl. Mae hyn yn golygu, trwy Gyfrifiad 2021, bod gennym ddata ar gyfnod unigryw yn ystod yr 21ain ganrif, ond mae gennym hefyd y gallu i ystyried sut y gallai'r pandemig fod wedi effeithio ar fudo rhyngwladol a'r boblogaeth amrywiol sy'n byw yng Nghymru a Lloegr.

Heledd Jones, Dadansoddydd Cynhyrchu Ystadegau:
Gallwn weld bod rhyw 10 miliwn o bobl a oedd yn byw yng Nghymru a Lloegr wedi cael eu geni y tu allan i'r Deyrnas Unedig. Mae hynny'n un o bob chwech unigolyn, a chynnydd o 2.5 miliwn o Gyfrifiad 2011.

Shamela Pepper-Grainger, Swyddog Ymchwil:
Byddwn yn cyhoeddi canlyniadau mudo manylach yn 2023, gan edrych ar y swyddi yr oedd pobl yn gweithio ynddynt a ble roeddent yn astudio, a fydd yn dangos mwy i ni am y ffordd y mae mudo rhyngwladol yn cyfrannu at ein cymdeithas.