Trawsgrifiad o'r animeiddiad Beth sy'n digwydd i'm gwybodaeth o'r cyfrifiad?
Llefarydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol:
Cawsom ymateb gwych i Gyfrifiad 2021.
I'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae'n golygu llawer o waith gyda sawl cam i droi miliynau o ffurflenni'r cyfrifiad yn ystadegau y gallwn i gyd eu defnyddio.
I droi eich holl wybodaeth o'r cyfrifiad yn ystadegau, rydym yn ei chrynhoi, ei glanhau, ei chwblhau a'i thrawswirio, yn ogystal â sicrhau cyfrinachedd.
I grynhoi'r data, rydym yn casglu ac yn sganio ymatebion papur ac yn cyfuno'r rhain yn ddiogel ag ymatebion ar-lein.
Ar gyfer Cyfrifiad 2021, roedd 89% o ffurflenni ar-lein, ond cawsom 2 filiwn a hanner o holiaduron papur o hyd.
Yna, rydym yn glanhau'r data.
Rydym yn cymryd gofal i wneud yn siwr ein bod yn cyfrif am unrhyw achosion o ddyblygu, fel rhywun yn llenwi holiadur ddwywaith yn yr un cyfeiriad.
Y cam nesaf yw cwblhau.
Gan ddefnyddio dulliau ystadegol cydnabyddedig a gynlluniwyd yn ofalus, rydym yn llenwi'r bylchau yn y data.
Mae hyn yn sicrhau bod yr ystadegau terfynol yn cynrychioli'r boblogaeth gyfan.
Mae angen i ni drawswirio ein data i wneud yn siwr bod gennym ystadegau o ansawdd uchel. Am y tro cyntaf ar gyfer Cyfrifiad 2021, gwnaethom alluogi awdurdodau lleol i weld amcangyfrifon dros dro cyfyngedig o niferoedd y bobl yn eu hawdurdod i wirio yn erbyn gwybodaeth am y boblogaeth leol.
Nid oedd yr amcangyfrifon hyn yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol.
Mae'r gwiriad ychwanegol hwn yn rhoi mwy o hyder i ni yn y data, gan olygu mai dyma'r data gorau posibl.
Diogelwch a chyfrinachedd eich gwybodaeth yw ein prif flaenoriaeth.
Dyna pam mae'r holl ymatebion wedi'u diogelu gan y gyfraith, ac ni ellir adnabod unrhyw unigolyn yn yr ystadegau rydym yn eu cyhoeddi.
Caiff y wybodaeth bersonol ar eich ffurflenni ei chadw'n ddiogel am 100 mlynedd.
Mae'r ystadegau a gaiff eu cynhyrchu o'r cyfrifiad a data eraill yn helpu'r llywodraeth, awdurdodau lleol, elusennau, gwasanaethau iechyd a busnesau i gynllunio gwasanaethau yn eich ardal.
Mae hyn yn helpu i greu cymdeithas sy'n gweithio'n well i chi ac i'ch cymuned.